top of page
Search
  • Writer's pictureTask Force Cymru

Blog 3 gan y Tasglu!

Updated: Jul 18, 2020

Croeso i ypdet am waith y Tasglu yr wythnos yma!


Rydym yn gasgliad o weithwyr llawrydd o’r Tasglu Llawrydd Cenedlaethol yn ymateb i broblemau sy’n effeithio gweithwyr llawrydd yng Nghymru. Byddwn yn gweithio ar brosiectau creadigol ac ymarferol dros amser penodol. Croeso i ein blog wythnosol!


Os oes unrhyw weithwyr llawrydd angen cymorth rwan ewch i:


Rhai o aelodau y tasglu (Ch-Dd: Steffan Donnelly, Glesni Price-Jones, Deborah Light; Angharad Lee, Mathilde Lopez, Connor Allen; Hannah McPake, Jafar Iqbal) mewn cyfarfod yr wythnos hon.


Beth rydyn ni wedi’i wneud yr wythnos hon:

Gwrando ar weithwyr llawrydd:


Mae’r Tasglu wedi siarad gyda dros 25 o weithwyr llawrydd yr wythnos hon, gan wrando ar eu pryderon a’u hawgrymiadau. Mae hyn wedi bwydo fewn i'r gwaith isod a'n prosiectau sydd i ddod yn yr wythnosau nesaf.

Sesiynau Ystafell Werdd Tasglu Llawrydd Cymru:


Yn ystod yr wythnos, cynhaliwyd dwy sesiwn Ystafell Werdd wedi eu hanelu at weithwyr llawrydd ym maes Dawns a gweithwyr llawrydd sy’n Gymry Cymraeg. Diolch yn fawr i bawb a ddaeth i’n sesiynau Ystafell Werdd.


Mae un arall yr wythnos nesaf ar gyfer:


Gweithwyr Llawrydd Rhondda Cynon Taf

Dydd Llun 20 Gorffennaf: 11am – 12.30pm

Gofod diogel i Weithwyr Llawrydd RhCT rannu pryderon am y presennol a’r dyfodol, ac awgrymu pwyntiau gweithredu ar gyfer y Tasglu wrth iddo symud ymlaen. Os hoffech chi fod yno, anfonwch ebost at: walesfreelancetaskforce@gmail.com. Os oes gennych anghenion mynediad, gofynnir yn garedig i chi roi gwybod i ni cyn y digwyddiad.


Byddwn yn lansio rhagor o sesiynau Ystafell Werdd yr wythnos ganlynol.


Casglu dolenni ac adnoddau defnyddiol ar gyfer gweithwyr llawrydd – gweler y rhestr ar ddiwedd y blog hwn.

Gofyn am eglurder ar ariannu ychwanegol, a gofyn i Cyngor Celfyddydau Cymru ymrwymo i ddosbarthu % o’r arian hwn i weithwyr llawrydd:


Rydyn ni wedi anfon llythyr at Gyngor Celfyddydau Cymru, cyn ein cyfarfod gyda nhw yr wythnos nesaf, yn gofyn iddynt sicrhau bod o leiaf 25–30% o’r arian ychwanegol a ddarperir gan y Llywodraeth (arian rydyn ni’n dal i aros am eglurder yn ei gylch) yn mynd i weithwyr llawrydd. Yn ddelfrydol, byddai hyn ar ffurf grantiau micro gyda ffurflen gais syml – a gohirio’r gymhareb o waith hunan-gyflogedig (50%) a PAYE, a oedd yn cyfyngu ar fynediad rhai gweithwyr llawrydd i gymorth argyfwng blaenorol Cyngor Celfyddydau Cymru.

Cymryd rhan yn y digwyddiadau canlynol:


Bu Glesni, Angharad a Steffan yn ateb cwestiynau mewn sesiwn Zoom byw, ‘Creu yn Cofid’ nos Iau, a drefnwyd gan yr Eisteddfod Genedlaethol.


Bu aelodau o’r Tasglu yn mynychu Beth Nesaf Cymru a chyfarfodydd o Dasglu’r DU, a byddant yn mynychu Cyfarfod Pwyllgor Cenedlaethol Cymru a drefnir gan Equity ddydd Llun 20 Gorffennaf.

Symud ymlaen gyda gwaith ar ran artistiaid llawrydd ym maes dawns:


Yn Lloegr, mae Equity wedi anfon llythyr ar ran artistiaid llawrydd ym maes dawns. Bu Deborah Light mewn cysylltiad ag Equity Cymru i ofyn iddynt lunio llythyr tebyg ar gyfer Aelodau o Bortffolio Celfyddydol Cymru. 


Mae Deborah hefyd wedi gofyn i Equity am wybodaeth ynghylch cael llinell amser/map ar gyfer adfer y sector. Ar hyn o bryd maen nhw mewn trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, a byddant yn darparu arweiniad.


Bydd aelodau o’r is-grŵp dawns yn mynychu cyfarfod o dasglu’r DU yr wythnos nesaf gyda phobl sy’n dawnsio, ac yn dweud bod angen gofalu bod unrhyw waith lobïo sy’n cael ei wneud ar ran y sector dawns yn Lloegr hefyd yn cael ei wneud yng Nghymru (a’r gwledydd datganoledig eraill).


Data am weithwyr llawrydd:


Nid yw data CCC am weithwyr llawrydd yn ddigonol ar hyn o bryd. Mae Deborah Light wedi gofyn i Gyngor Celfyddydau Cymru am wybodaeth yn ymwneud yn benodol â’r lefelau ariannu yng nghyd-destun dawns, a beth sydd/sydd ddim wedi cael ei ariannu allan o gronfa argyfwng CCC yn ddiweddar.


DOLENNI DEFNYDDIOL / GWYBODAETH:


Comisiynau ffolio:


Webinarau One Dance UK ar ddychwelyd i ddawnsio:


Argymhellion Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar gyfer sector y celfyddydau yn dilyn COVID-19:


Mae Alison Woods yn arwain ar sefydlu Tasglu Diwylliant Cymru. Cynhelir y cyfarfod nesaf ddydd Llun 20 Gorffennaf am hanner dydd. Cysylltwch ag alison@nofitstate.com am wybodaeth a manylion y cyfarfod.


Datblygiad artistiaid – ‘Webinar Wednesdays’ yn cael eu cyflwyno gan The Place:


Mae Understory yn addas ar gyfer unrhyw un sy’n mynd i fyd y ddawns, yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol: graddedigion mewn dawns, rhai sy’n hunan-hyfforddedig, a phobl sy’n dysgu y tu allan i’r strwythurau normadol, ym mha gam bynnag y maen nhw yn eu bywydau.


Cynghrair gynhwysol ar gyfer y rhai sy’n cael eu hallgáu:


www.pregnantthenscrewed.com Gweithio i roi diwedd ar y gosb tâl mamolaeth. Maen nhw’n mynd â’r llywodraeth i’r llys am wahaniaethu yn erbyn menywod yn y cynllun Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogedig (SEISS).

Mae Season for Change yn falch iawn o lansio Common Ground, sef rhaglen o bedwar comisiwn gwerth £10,000 ar gyfer artistiaid, gwneuthurwyr neu grëwyr, a rhaglen o ddatblygiad proffesiynol yn ffocysu ar arweinyddiaeth hinsawdd ddiwylliannol, a gefnogir gan Gyngor Celfyddydau Lloegr a Sefydliad Paul Hamlyn. https://www.seasonforchange.org.uk/common-ground-launches/


Cyfleoedd wedi eu hariannu’n llawn i fyfyrwyr PhD, yn cynnwys ymchwil ym maes dawns ym mhrifysgol Coventry:

Gwybodaeth ar gyfer Gweithwyr Creadigol o Caerdydd Greadigol:

BWRSERIAETH ARTIST TIME = MONEY o National Theatre Wales – Dyddiad Cau 26 Gorffennaf.

Prosiect Cyfnewid (gweithwyr llawrydd a gweithwyr proffesiynol ar ffyrlo yn cwrdd ar gyfer datblygiad proffesiynol a thwf artistig):


COVID-19: Adroddiad ‘Llwybrau i Adferiad’:


Gwybodaeth sy’n berthnasol i Loegr yn unig, ond gallai fod yn ddefnyddiol:


Aelodaeth am ddim am flwyddyn i’r Rural Touring Forum:


Adnoddau ar gyfer gweithwyr llawrydd gan yr RSC:


Drwy gydol y pandemig, mae NODA – sy’n sefydliad gwych – wedi bod yn gweithio i gefnogi’r sector amatur:


National Association of Youth Theatres – mae ganddynt nifer o gyfleoedd hyfforddi diddorol:

Pethau y gallech chi eu gwneud, y funud hon:

Ymateb i ymchwiliad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i’r pandemig COVID-19 a’i effaith ar ddiwylliant, y diwydiannau creadigol, treftadaeth, cyfathrebu a chwaraeon.

-Rydyn ni’n annog artistiaid i ymgysylltu â’r cyfarfodydd BETH NESAF? ar Zoom er mwyn i ni glywed gan leisiau llawer mwy amrywiol o fewn y sesiynau hyn (gweler isod).

Beth Nesaf Cymru: Pob dydd Mercher am 8.30am

Beth Nesaf y Cymoedd: Pob dydd Mawrth am 9.30am

Mae CULT CYMRU wedi bod yn cynnig rhai gweithdai ardderchog. Am wybodaeth ewch i:


Sut cafon ein sefydlu?

Cawsom ein sefydlu gan gymysgedd o sefydliadau yn dewis gweithwyr llawrydd a drwy geisiadau ar-lein.

Rydym yn cael ein talu am 13 diwrnod o waith, mae rhai ohonom yn rhannu y sywdd.

Dyma fwy o wybodaeth mewn llythyr gan Fuel a ystadegau am y Tasglu:

Sefydliadau yng Nghymru sydd wedi noddi aelod ar y Tasglu Cenedlaethol:

Fio, Hijinx Theatre, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, National Theatre Wales, Rubicon Dance, Taking Flight, Theatr Genedlaethol Cymru, Theatr Iolo, Canolfan Mileniwm Cymru.

Aelodau o’r Tasglu Cenedlaethol yng Nghymru:

Sarah Argent, Steffan Donnelly, Garrin Clarke, Jafar Iqbal, Zosia Jo, Angharad Lee, Deborah Light, Krystal Lowe, Mathilde Lopez, Hannah McPake, Gavin Porter, Glesni Price-Jones.

Cysylltwch efo ni:

37 views0 comments

Recent Posts

See All
Post: Blog2_Post
bottom of page