top of page
Search
  • Writer's pictureTask Force Cymru

Blog Crynodeb

Updated: Oct 12, 2020

Cyflwyniad


Helo! Hwn yw’r blog olaf oddi wrth Tasglu Llawrydd Cymru yn ei ffurf bresennol. Mae’r cynllun peilot 13-wythnos cychwynnol a gefnogwyd gan Fuel a sefydliadau nawdd bellach wedi dod i ben. Mae aelodau o’r Tasglu yn parhau i wneud peth gwaith, a bydd hwnnw’n cael ei ryddhau maes o law.


Mae Tasglu Llawrydd Cymru yn ystyried parhau mewn rhyw ffurf fel corff annibynnol i gryfhau llais gweithwyr llawrydd ym maes y celfyddydau a pherfformio yng Nghymru. Byddai’r aelodaeth yn cylchdroi’n flynyddol. Byddem yn helpu i adeiladu sector gwell, mwy gwydn a thecach i weithwyr llawrydd. Ar ôl ychydig o saib, mae rhai ohonom yn bwriadu ail-grwpio i gynllunio sut i symud ymlaen. Byddwn yn gwneud y broses yn un agored, tryloyw a chynhwysol. Os hoffech chi chwarae rhan, gadewch i ni wybod: walesfreelancetaskforce.com.


Yn y cyfamser, diolch i chi am eich cefnogaeth.




Trosolwg


Beth wnaethon ni ei gyflawni?


Logisteg a Gweithredu

  • Sefydlwyd cyfarfodydd wythnosol gan drefnu cadeirydd a chofnodydd ar system rota. 

• Cytunwyd ar Bolisi Hygyrchedd a Pholisi’r Iaith Gymraeg. Trefnwyd cyfieithydd (a ddarparwyd gan Theatr Genedlaethol Cymru) a Chronfa Hygyrchedd (Cyngor Celfyddydau Cymru). 

• Ysgrifennwyd at gwmnïau Portffolio Celfyddydau Cymru (PCC) yn gofyn iddynt gyfrannu arian i helpu ein gwaith (e.e. talu gweithwyr llawrydd am gyngor neu ddehonglydd BSL). Diolch yn fawr i’r sefydliadau hynny oedd yn barod i’n cefnogi: Ballet Cymru, Sefydliad Glowyr y Coed-duon, Emma Evans, Tanio, Theatr Genedlaethol Cymru, Theatr Clwyd, a Chanolfan Mileniwm Cymru. 

  • Ystadegau’r cyfryngau cymdeithasol: ar hyn o bryd, mae gennym dros 700 o ddilynwyr ar Twitter, gyda 200 trydariad mewn 3 mis. Ar hyn o bryd, ar Facebook mae dros 600 wedi ein ‘hoffi’ a 469 wedi ymgysylltu.

Cynghori a Lobïo 

• Anogwyd gweithwyr llawrydd yng Nghymru i ysgrifennu at eu Haelodau Seneddol yn gofyn am gymorth brys.

 • Ysgrifennwyd at Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru i ofyn iddynt sicrhau bod 25–30% o unrhyw gymorth ariannol ychwanegol a dderbynnir ar gyfer sector y celfyddydau, treftadaeth a diwylliant yn mynd i weithwyr llawrydd, ynghyd ag argymhellion ynghylch mecanwaith ymgeisio am yr arian hwn. 

• Trefnu ymgyngoriadau rheolaidd gydag uwch-arweinyddiaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, yn cynnwys trafodaethau ar ailagor ariannu grant, ac elfen newydd o gymorth erbyn mis Medi 2020. Rydym yn disgwyl y bydd elfen newydd o arian loteri yn cael ei gyhoeddi’n fuan.

  • Cynghori Cymru Greadigol/Llywodraeth Cymru ar fanylion y Gronfa Lawrydd (rhan o’r pecyn argyfwng gwerth £53m a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru), a’r addewid llawrydd oedd yn gysylltiedig â hyn. Rydym wedi bod yn annog Cymru Greadigol i wneud y gronfa hon cyn deced â phosibl ac yn rhwydd i gael mynediad ati gan weithwyr llawrydd ar draws y sector. Deallwn y bydd y gronfa’n agor ar 5 Hydref a bydd manylion pellach yn cael eu rhyddhau’n fuan: https://gov.wales/find-out-if-you-are-eligible-support-cultural-recovery-fund

  • Cynhyrchu set o argymhellion ar gyfer CCC, yn cynnwys arian loteri ar frys, ariannu modelau wrth symud ymlaen, cyfrifoldebau PCCau i CCC, a phrosesau a strategaethau CCC. Cynhaliwyd cyfarfodydd gyda’r uwch-dîm i drafod y rhain: https://drive.google.com/file/d/1cpMBVAgsOxpuiFGyh0EHXz_meS6OBbfK/view?usp=sharing

Prosiectau a Mentrau Polisi 


  • Lansiwyd Arolwg Llawrydd Cymru gyda 420 o ymatebwyr – yr arolwg cyntaf o’i fath i gael gwell dealltwriaeth o sefyllfa gweithwyr llawrydd yng Nghymru. Mae’r data ar gael ar-lein (trwydded Creative Commons) yn freelance.wales neu llawrydd.cymru, a gwnaed defnydd ohono yn ein hymgyngoriadau gyda CCC, Cymru Greadigol a Llywodraeth Cymru.

  • Aethom ati i gynhyrchu’r adroddiad Ailfantoli ac Ailddychmygu (mwy am hwn isod) gydag argymhellion ar gyfer sefydliadau, y llywodraeth, cyllidwyr a rhanddeiliaid eraill: llawrydd.cymru/adroddiad.

  • Lansiwyd y prosiect Ein Llais/Our Voice i gasglu profiadau Artistiaid Du sy’n Gymry neu wedi’u lleoli yng Nghymru: https://drive.google.com/file/d/1Alu0AWiQLH52eoHbF2YH74V5r9ajGPTj/view?usp=sharing.

  • Lansiwyd prosiect lles ar gyfer actorion. 

  • Cyfrannwyd at ganllaw Tasglu Llawrydd y DU ar ymarfer gorau ar gyfer sefydliadau a gweithwyr llawrydd.

  • Lluniwyd cynnig am Incwm Sylfaenol ar gyfer gweithwyr llawrydd ym maes y theatr a pherfformio yng Nghymru: https://www.zosiajo.com/post/who-get-s-to-be-artists. Mae’r ymgynghori ar y mater hwn yn parhau gyda CCC, Equity Cymru a Llywodraeth Cymru. Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru wedi galw am gynllun peilot Incwm Sylfaenol i weithwyr creadigol, gan roi tyniant gwleidyddol i’r cynnig hwn: https://www.futuregenerations.wales/news/future-generations-commissioner-calls-for-a-universal-basic-income-pilot-for-creatives/

Gwrando ac Ymgynghori 


  • Trefnwyd 8 cyfarfod Ystafell Werdd gyda’r nod o gasglu lleisiau, barn a syniadau gweithwyr llawrydd ar draws y sector yng Nghymru. Ym mhob cyfarfod Ystafell Werdd trafodwyd pryderon penodol, rolau neu nodweddion gwarchodedig:

• Rheolwyr Llwyfan • Dawnswyr • Pobl feichiog • Gweithwyr Llawrydd Rhondda Cynon Taf • Gweithwyr Llawrydd sy’n gweithio trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg • Gweithwyr llawrydd Byddar ac Anabl • Actorion Niwro-amrywiol • Graddedigion diweddar a Hwyluswyr.

  • Trefnwyd cyfarfod ar raddfa fawr ledled y DU i alluogi gweithwyr llawrydd i drafod gyda sefydliadau ynghylch beth mae ar gweithwyr llawrydd ei angen er mwyn creu eu gwaith gorau, a sut mae sefydliadau’n ymateb er mwyn eu cefnogi. 

  • Cynhaliwyd 12 o gyfarfodydd gyda sefydliadau ynghylch eu hymateb i effaith Covid-19 ar weithwyr llawrydd, gan awgrymu ymarfer gorau wrth i’r argyfwng ledaenu, a strategaethau ar gyfer ymadfer. 

  • Mynychwyd/cyfrannwyd at gyfarfodydd ledled y DU, yn cynnwys: Cynghorau Celfyddydau Cymru a Lloegr, Creu Cymru, Equity, Privilege Cafe, SOLT ac UK Theatre, People Dancing, Fforwm Teithio Gwledig/Rural Touring Forum, Tasglu’r DU a’i is-grwpiau, Beth Nesaf? Caerdydd.

  • Buom yn rhannu ein gwaith gydag aelodau eraill o Dasglu’r DU a sefydliadau nawdd mewn cyfarfod a drefnwyd gan Fuel i nodi diwedd prosiect peilot y Tasglu.

  • Cynhaliwyd cyfarfod gydag Equity Cymru i gynnig persbectif gweithwyr llawrydd ar effaith y Covid-19, cyfarwyddyd Llywodraeth Cymru ar ailagor, casglu data, Contract Diwylliannol Cymru ac Incwm Sylfaenol. 

  • Ymatebwyd i geisiadau gan y cyfryngau am gyfweliadau ar Radio BBC, Newyddion S4C, Podlediad Caerdydd Greadigol, a’r Eisteddfod AmGen.


Yr adroddiad ‘Ailfantoli ac Ailddychmygu’


Mae Tasglu Llawrydd Cymru wedi cyhoeddi adroddiad er mwyn hwyluso Ailfantoli ac Ailddychmygu sector y theatr a pherfformio yng Nghymru.


Mae’n cynnwys data o Arolwg Llawrydd Cymru, yn crynhoi gwaith y Tasglu, ac yn cynnig syniadau ar gyfer sefydliadau a Chyngor Celfyddydau Cymru er mwyn cefnogi’r gymuned lawrydd a chreu diwydiant sy’n fwy cyfartal, amrywiol a gwydn. Mae’r data yn ein helpu ni i gyd i ddeall yr angen brys i weithredu hyn ac rydym yn gobeithio y bydd sefydliadau a CCC yn gweithredu ein hargymhellion.


Cipolwg ar ein data:

  • Roedd 94% o’r gweithwyr llawrydd ym maes y theatr a pherfformio yng Nghymru wedi colli gwaith yn sgil Covid-19.

  • Roedd y mwyafrif mawr (90%) wedi colli hyd at £20,000 o incwm.

  • Roedd 47% heb dderbyn unrhyw gymorth ariannol gan gynllun SEISS y Llywodraeth.

  • Mae 27% heb incwm digonol i fyw arno.

  • Mae 33% yn ansicr a fyddant yn aros yn y diwydiant ai peidio.

  • Dywedodd 79% fod y sefyllfa’n cael effaith wael ar eu lles.

  • Mae 70% yn teimlo nad ydynt yn cael eu cynnwys yn y gwaith o gynllunio ar gyfer dyfodol y sector creadigol yng Nghymru.

  • Mae menywod, ar gyfartaledd, yn derbyn 25% yn llai o dâl na dynion.

Darllenwch yr adroddiad (gan gynnwys fersiynau sain, hawdd ei ddarllen, BSL a chapsiynau); mae’r data i’w weld yma: http://www.llawrydd.cymru


Mae’r adroddiad hwn yn amlygu’r angen am ailfantoli sector y theatr a pherfformio yng Nghymru i rymuso a chynnwys gweithwyr llawrydd, yn enwedig felly y rhai sydd yn hanesyddol wedi cael eu gwthio i’r cyrion. Mae ein hargymhellion (sydd wedi’u rhifo) yn cynnwys:

  • sicrhau bod pobl ar y cyrion, a rhai a chanddynt nodweddion gwarchodedig, yn cael eu cynrychioli mewn sefydliadau, ac yn ymgysylltu â hwy mewn modd ystyrlon (1–30)

  • newidiadau i lywodraethiant sefydliadol (31–35)

  • sefydliadau a Chyngor Celfyddydau Cymru (CCC) yn ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb am ddatblygu ac uwchsgilio gweithwyr llawrydd yn y tymor hir (36–58)

  • newidiadau i gynlluniau ariannu Cyngor Celfyddydau Cymru, mecanweithiau cyflwyno cais, a phrosesau atebolrwydd (59–71)

  • strategaethau ar gyfer datblygiad a chynaliadwyedd gwaith yn y Gymraeg (72–77)

  • mwy o ddadansoddi is-sectoraidd a rhanbarthol gan CCC, gan ddechrau trwy gynnig argymhellion i ddatblygu’r sector Dawns (78–82) a gogledd Cymru (83–87).

Gall sefydliadau gymryd y foment hon i ystyried eu cymuned ac adlewyrchu ar y modd y maent yn eistedd o’i mewn: ydych chi’n datblygu neu’n cynhyrchu unrhyw waith yn y Gymraeg? Ai gweithwyr llawrydd yw’r unig bobl croenliw neu fyddar neu anabl rydych chi’n gweithio gyda hwy? A oes modd i chi rannu mwy o’ch gofod/adnoddau gyda’r gweithlu llawrydd? A oes modd i ragor o’r gweithwyr llawrydd rydych yn eu cyflogi fod wedi’u lleoli yng Nghymru?


Neges gan Deborah Light:


Mae Deborah Light wedi bod yn cysylltu â Grŵp Dawns Tasglu Llawrydd y DU.

Mae crynodeb o waith Grŵp Dawns Tasglu Llawrydd y DU ar gael yma: https://drive.google.com/file/d/1d9EOl_fYAkr8VU8T6w88FK7XMNDA-VaZ/view?usp=sharing

Mae’r gwaith yn cynnwys: – 5 dogfen Egwyddorion Arweiniol – model drafft masnach deg ar gyfer gweithwyr llawrydd.

– IDEALLL – dogfen ddrafft ar arferion gweithio sy’n mynd i’r afael â gwrth-hiliaeth ac yn argymell ymarfer cynhwysol ar draws y sector dawns a symud. – ‘Black Lives Matter’ (BLM) yn yr Is-grŵp Dawns. – Mynegai Gwrth-Hiliaeth a Chynhwysiad, sy’n nodi mentrau, adnoddau ac enghreifftiau ymarfer gorau o fewn y Celfyddydau ledled y wlad. – Dogfen Strwythurau Tâl ar gyfer gwaith yn gysylltiedig â symud a dawns, gyda’r nod o fynd i’r afael â hyn a chael gwahanol undebau llafur a sefydliadau ym myd y celfyddydau i ymgymryd ag ef. – Cynigion Unigolyn/Artist Portffolio Cenedlaethol (NPI/NPA).


Mae Deborah yn llunio papur ar faes y ddawns yng Nghymru, gyda ffocws ar yr hyn y gall CCC a PCCau ei wneud i gefnogi artistiaid dawns llawrydd, yn seiliedig ar ystadegau a data o arolwg gweithwyr llawrydd Cymru a CCC, ynghyd â mewnwelediad gan unigolion ac Ystafell Werdd y Ddawns. 

Yr ystadegau allweddol yw:

Mae 76% o’r artistiaid dawns yn ennill £15,000 neu lai, o gymharu â 42% o’r holl rai a ymatebodd i’r arolwg. Roedd 71% wedi ychwanegu at eu hincwm o gymharu â 45% o’r holl ymatebwyr. Mae 41% yn ansicr a fyddant yn aros yn y diwydiant ai peidio, o gymharu â 33% o’r holl ymatebwyr. 

Dengys data CCC fod cwmnïau PCC dawns-benodol yn derbyn 6% o’r holl gyllid portffolio. Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn derbyn dim ond 32% o’r gyllideb gyfun a dderbynnir gan Theatr Genedlaethol Cymru a National Theatre Wales. Dim ond 4% o arian y loteri yn 2019/20 aeth i 17 o brosiectau lle roedd mwy na 50% o’r prosiect yn weithgaredd dawns.


Yr argymhellion allweddol yw:

Dylai CCC gynyddu’r lefelau cyllido ar gyfer dawns (trwy gyfrwng y portffolio/ loteri a chronfeydd strategol). Dylai CCC ddatblygu strategaeth ar gyfer dawns yng Nghymru mewn ymgynghoriad â’r rhai sy’n rhan o’r sector, yn cynnwys gweithwyr llawrydd. Dylai CCC sicrhau bod gwybodaeth o’r sector dawns yn bresennol ac yn rhan weithredol o’r broses o wneud penderfyniadau ynghylch dyfarnu grantiau i faes Dawns. Dylai PCCau Dawns rannu mynediad at ofod ac adnoddau eraill gyda gweithwyr llawrydd a sefydliadau sy’n derbyn arian prosiect. Dylai PCCau Dawns gyflogi artistiaid dawns sy’n Gymry neu o Gymru.

Dylai lleoliadau a thai cynhyrchu sicrhau eu bod yn cyflwyno/comisiynu/ cynhyrchu/cefnogi dawns ac yn cyflogi artistiaid dawns o Gymru fel rhan o’u gweithgaredd.


Bydd y papur llawn ar gael yn yr ychydig wythnosau nesaf, a chaiff ei rannu ar gyfryngau cymdeithasol y Tasglu ac ar blog Groundwork.



Neges gan Sarah Argent:


Treuliodd Sarah Argent, ynghyd ag eraill, y rhan fwyaf o’i hamser ar y Tasglu yn holi gweithwyr llawrydd yng Nghymru a ledled y DU sy’n gweithio ym maes Theatr ar gyfer Cynulleidfaoedd Ifanc, ac yn ehangach ym myd y theatr a dawns. Dyma air gan Sarah ynghylch y gwaith hwn:

Rydw i wedi bod yn gofyn y cwestiynau isod i weithwyr llawrydd yn gyffredinol:

  • Beth sydd arnoch ei angen er mwyn gwneud eich gwaith gorau?

  • Beth sy’n gwneud i chi deimlo wedi’ch grymuso’n gelfyddydol, a theimlo eich bod yn cael eich gwerthfawrogi? . . . yn ymarferol, yn ariannol, yn nhermau cyfathrebu â, a chael cefnogaeth emosiynol gan, gwmnïau a lleoliadau.

Bydd adroddiad ar hyn yn cael ei gyhoeddi’n fuan.


Rydw i wedi bod yn gofyn y cwestiynau isod i weithwyr llawrydd ym maes y Theatr ar gyfer Cynulleidfaoedd Ifanc (TYA) 

  • Beth yw’r ymatebion hyfrytaf rydych wedi eu derbyn gan blentyn neu berson ifanc; rhiant neu ofalwr; athro neu athrawes; pennaeth, neu unrhyw aelod arall o staff mewn ysgol?

  • Beth yw’r peth mwyaf nawddoglyd mae rhywun wedi’i ddweud wrthych chi ynghylch gweithio ym maes y Theatr ar gyfer Cynulleidfaoedd Ifanc?

  • Beth yw’r peth anoddaf, a’r peth sydd wedi rhoi’r mwyaf o foddhad i chi?

  • Beth yn ein sector ni sy’n gwneud i chi deimlo’n fwyaf balch (naill ai nawr neu yn y gorffennol), a pha newidiadau y byddech hi’n hoffi eu gweld fwyaf? 

Ym maes y Theatr ar gyfer Cynulleidfaoedd Ifanc, dydyn ni ddim yn ennill y dadleuon economaidd, ond rydyn ni’n ffocysu ar les emosiynol ein plant a’n pobl ifanc – ac rydyn ni’n newid bywydau!  


Bydd yr atebion yn cael eu rhannu’n fuan!


Neges gan Steffan Donnelly am ei amser gyda Tasglu Llawrydd Cymru:

Dwi wedi bod yn arwain ar y canlynol:

  • Lansio Arolwg Llawrydd Cymru i gael gwell gafael ar y sefyllfa yng Nghymru.

  • Llunio’r adroddiad Ailfantoli ac Ailddychmygu, i gynnig strategaethau i gefnogi gweithwyr llawrydd.

  • Cwrdd â Chymru Greadigol i gynghori ar fanylion Cronfa Llawrydd Llywodraeth Cymru (rhan o becyn brys Llywodraeth Cymru, gwerth £53m). Rydw i’n aelod o Weithgor Adduned Gweithwyr Llawrydd Cymru Greadigol.

  • Siarad gyda thros 50 o weithwyr llawrydd a gwahanol sefydliadau i ddeall beth yw’r ffordd orau y gall y Tasglu helpu.


Pethau dwi wedi bod yn meddwl amdanynt:


Gogledd Cymru


Dwi wedi bod yn poeni’n arbennig am weithwyr llawrydd yng ngogledd Cymru sy’n teimlo eu bod wedi eu ‘gwahanu’ oddi wrth y diwydiant celfyddydol gan fod hwnnw’n ‘Gaerdydd-ganolog’. Mae 41% o’r ymatebwyr sy’n byw yng ngogledd Cymru’n ansicr a fyddant yn aros yn y diwydiant ai peidio. Mae fy adroddiad yn gofyn am gynyddu lefelau ariannu i ddarparu gwell cyfleoedd, system sy’n cysylltu sefydliadau â gweithwyr llawrydd ar draws y rhanbarth, a rhagor o deithio a chynnal cyfweliadau yng ngogledd Cymru.


Yr Iaith Gymraeg


Mae Cymru’n genedl ddwyieithog a chanddi ddwy iaith swyddogol – Cymraeg a Saesneg. Gallai Covid-19 gyfyngu ymhellach ar yr hyn sydd eisoes yn gasgliad bychan o wneuthurwyr theatr a gweithwyr llawrydd sy’n siarad Cymraeg. Dywedodd rhai ymatebwyr Cymraeg eu hiaith eu bod yn bwriadu aros yn y diwydiant, ond gan ychwanegu y byddai hynny’n debygol o fod y tu allan i Gymru. Dylai sefydliadau greu mwy o waith yn y Gymraeg, a chynyddu eu cefnogaeth i wneuthurwyr theatr sy’n gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg.


Y ffyrdd ymlaen?


Gweler ein hadroddiad am argymhellion i gryfhau’r rhain ac aelodau eraill o’r gymuned lawrydd: freelance.wales/report


Mynegwyd nifer o bryderon gan ymatebwyr yng nghyd-destun datblygu gwaith yn Gymraeg yng Nghymru yn nhermau graddfa, arbrofi, a gor-ddibyniaeth PCCau ar gwmnïau eraill sy’n gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg i ddarparu’r gwaith hwn ar eu rhan. Ymhlith y pethau a restrwyd ganddynt roedd diffyg gofodau arbrofi yn y Gymraeg, diffyg ystod o gyfleoedd drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ardaloedd Cymraeg eu haith, a’r ffaith fod y ‘sîn ymylol’ gyfyngedig yng Nghymru ar gael yn bennaf drwy gyfrwng y Saesneg. Bydd yr awgrymiadau hyn yn cyfrannu tuag at gynllun Llywodraeth Cymru, Cymraeg 2050, i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i 1 filiwn erbyn 2050. Rhaid i sefydliadau sy’n derbyn arian cyhoeddus ysgwyddo eu cyfran hwy o’r cyfrifoldeb o ran cyflawni hyn.


Mae 19% o boblogaeth Cymru’n siarad Cymraeg. Trwy ddefnyddio hyn fel canllaw, dylid rhoi 20% o’r cyfleoedd datblygu a’r rolau cysylltai i siaradwyr Cymraeg. Dylai lleoliadau helpu i ddatblygu cynulleidfaoedd trwy gynnig mwy nag un noson ar gyfer sioe Gymraeg.


Dylai cwmnïau Portffolio (nad ydynt yn uniaith Saesneg, neu sy’n ddi-iaith) gyflwyno o leiaf un cynhyrchiad y flwyddyn yn yr iaith Gymraeg – gallai Cyngor Celfyddydau Cymru eu dal yn atebol, o bosib ar yr un llinellau ag y mae gwledydd megis Ffrainc yn gweithredu isafswm trothwy o ganeuon Ffrengig ar y radio (Deddf Toubon).


Cyfleoedd


Neges gan Llywodraeth Cymru: 'Rydym wedi bod yn gweithio gyda nifer o bartneriaid ar gynllunio’r broses ymgeisio ar gyfer y gronfa i weithwyr llawrydd, ac wedi cadarnhau mai awdurdodau lleol fydd y partneriaid allweddol sy’n cyflawni hyn. Rydym am i gynifer ag y bo modd o’r gymuned gweithwyr llawrydd fod yn ymwybodol o’r gronfa hon a chael amser i wneud cais. O ganlyniad i hyn, bydd ceisiadau’n mynd yn fyw ddydd Llun 5 Hydref. Darperir canllawiau cyn y dyddiad hwn ar sut i wneud cais, a byddwn yn disgwyl gwneud penderfyniadau ariannu drwy fis Hydref yn unol â’r cyllid drwy Gyngor Celfyddydau Cymru a chymorth i sefydliadau drwy Lywodraeth Cymru.'


Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar ailagor bellach ar gael yma:


Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn recriwtio Artist Ymgysylltiol, Arweinydd y Cyfryngau a Dadansoddwr Newid https://www.futuregenerations.wales/careers/were-recruiting/


Bydd Cronfa Gydrannu Cyngor Celfyddydau Cymru yn ailagor yn fuan.


Future Labs – cyfres o sesiynau panel yn cynnwys trafodaeth, ymarfer da ac atebion ymarferol.


Mae Freelancers Make Theatre Work yn chwilio am weithwyr llawrydd ymgysylltiedig i gymryd rhan – mae hwn yn gyfle  THÂL. https://freelancersmaketheatrework.com/futurelabs/


-------


Aelodau o Dasglu Llawrydd Cymru: 


Connor Allen Jafar Iqbal Mathilde Lopez

Shakeera Ahmun Zosia Jo Anthony Matsena

Sarah Argent Angharad Lee Hannah McPake

Steffan Donnelly Deborah Light Glesni Price-Jones

Garrin Clarke Krystal Lowe

Sefydliadau yng Nghymru sydd wedi noddi aelod o’r Tasglu Llawrydd: 

Fio National Dance Company Wales Theatr Genedlaethol Cymru

Hijinx Theatre Rubicon Dance Theatr Iolo

National Theatre Wales Taking Flight    

Wales Millennium Centre / Canolfan Mileniwm Cymru


33 views0 comments

Recent Posts

See All
Post: Blog2_Post
bottom of page