top of page
Search
  • Writer's pictureTask Force Cymru

Blog 7: Ymgynghori ar Gronfa Lawrydd y Llywodraeth ac edrych i'r dyfodol gyda'n Cyfarfod Llawrydd DU

Croeso!


Pwy ydyn ni?


Rydyn ni’n griw o weithwyr llawrydd o Dasglu Llawrydd y DU, yn ymateb i faterion sy’n effeithio ar weithwyr llawrydd yng Nghymru. Bydd ein hymatebion ymarferol a chreadigol yn cael eu gweithredu drwy brosiectau dan gyfyngiadau amser. Croeso i’n blog wythnosol!

Os oes unrhyw weithiwr llawrydd ag angen cymorth ariannol y funud hon, ewch i: https://theatresupport.info/


Beth rydyn ni wedi’i wneud yr wythnos hon:

Trafod manylion y gronfa lawrydd, sydd i ddod gan Lywodraeth Cymru, gyda Chymru Greadigol sy’n cynllunio’r gronfa.


Roedd Cymru Greadigol wedi ymateb i’n llythyr (cliciwch i ddarllen), ac rydym yn falch o fod wedi cwrdd â nhw heddiw i roi adborth ar y gronfa lawrydd maen nhw’n ei chynllunio ar hyn o bryd (rhan o’r £53m a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y sector creadigol).


Byddwn yn cynrychioli pryderon y gweithwyr llawrydd a adlewyrchir yn y llythyr, yn cynnwys canran y cyllid a roddir i’r gweithwyr llawrydd, pwysigrwydd cael un dull syml o gyflwyno cais, dim cap 50% ar incwm hunangyflogedig, a dim angen am ddatblygu prosiect yn wynebu’r cyhoedd. Byddwn yn tanlinellu pwysigrwydd gwneud y cynllun hwn yn hygyrch, ac yn tynnu sylw at grwpiau o bobl sydd wedi cwympo drwy rwydi cynlluniau SEISS/ffyrlo a CCC, h.y. rhai sydd wedi derbyn lwfans mamolaeth, y rhai ar gytundebau byr / 0 oriau PAYE, graddedigion newydd, a gweithwyr cefn llwyfan sydd heb wneud cais am gymorth gan CCC.


Rydym yn awyddus i weld bod elfennau allgymorth a gwelededd y gronfa’n cael eu trafod, gan mai ychydig iawn ymhlith ymatebwyr Arolwg Llawrydd Cymru oedd wedi gwneud cais am gronfeydd argyfwng Cyngor Celfyddydau Cymru (dim ond 13% gyflwynodd gais am y Gronfa Ymateb Brys).



Trefnu Cyfarfod ledled y DU ar gyfer gweithwyr llawrydd, cwmnïau a lleoliadau: Dydd Llun 24 Awst 2020, 14.00–16.00


Mae Sarah Argent, Hannah McPake ac aelodau eraill o’r Tasglu Llawrydd yn trefnu cyfarfod ledled y DU i alluogi gweithwyr llawrydd, cwmnïau a lleoliadau i edrych ar y canlynol:

  • Beth sydd ar weithwyr llawrydd ei angen er mwyn creu eu gwaith gorau?

  • Beth allai cwmnïau neu leoliadau ei wneud i’w cefnogi?

Rydym yn gwahodd unrhyw weithwyr llawrydd sy’n gweithio yn y celfyddydau perfformio neu mewn unrhyw sefydliad neu leoliad i ymuno â ni.


Pwy sy’n derbyn gwahoddiad? 

Hoffem weld cynifer ag y bo modd o weithwyr llawrydd o bob rhan o’r DU – perfformwyr, rheolwyr llwyfan, cynllunwyr (ym meysydd setiau, goleuo, gwisgoedd, sain), pypedwyr, ysgrifenwyr, cyfarwyddwyr, cyfarwyddwyr symud, cynhyrchwyr, hwyluswyr ac ati. Byddem hefyd wrth ein bodd yn gweld cynrychiolaeth o gynifer ag y bo modd o leoliadau o bob math a maint.


Bydd 2 ddehonglydd BSL a chapsiynau byw ar gael yn y cyfarfod hwn. 


Bydd rhagor o wybodaeth, a manylion sut i gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn, yn cael eu postio’n gynnar yr wythnos nesaf ar wefan a rhwydweithiau cymdeithasol Tasglu Cymru, ac ar www.freelancetaskforce.co.uk, @FreelanceTForce 


Cwrdd eto â Simon Curtis, Equity Cymru


Cawsom gyfarfod gyda Simon Curtis, Equity Cymru, cyn ei gyfarfod gydag undebau eraill a Llywodraeth Cymru, fel bod modd iddo gynrychioli’r gweithlu a chyflwyno’n sylwadau a’n pryderon. 

Buom yn trafod y swm o £53m sydd i ddod ar gyfer y celfyddydau a diwylliant yng Nghymru, ac a gaiff ei ddyrannu drwy Lywodraeth Cymru a CCC; yn enwedig felly y gronfa Lawrydd (gweler uchod). Trafodwyd y cytundeb diwylliannol sy’n cael ei lunio fel amod o’r gronfa sydd newydd ei chyhoeddi – roedd y cynigion yn cynnwys amrywiaeth, cyflog ac amodau teg, targedau’r iaith Gymraeg, ac ymuno â PIPA (rhieni yn y celfyddydau perfformio). Trafodwyd hefyd bwysigrwydd cytundebau ac yswiriant a gafodd eu bargeinio ar y cyd fel rhan o’r gwaith o sicrhau nad yw pobl fregus yn cael eu heithrio. Buom hefyd yn trafod sut y gallai sefydliadau mawr gefnogi gweithwyr llawrydd a sefydliadau bychan drwy rannu adnoddau a darparu amddiffyniad er mwyn brysio i ‘ryddhau’r gweithlu creadigol’, a phwysigrwydd canllawiau a map ar gyfer agor perfformiadau awyr agored.

Buom hefyd yn trafod cynigion ar gyfer incwm sylfaenol i weithwyr llawrydd creadigol yng Nghymru, yn enwedig felly y goblygiadau ynghylch cytundebau gafodd eu bargeinio ar y cyd, a sut y gallai hyn groestorri gyda chyllid CCC a strwythurau tâl yn y sector.

Bydd Simon Curtis yn parhau i’n diweddaru ar y datblygiadau.


Cyflog Sylfaenol i Weithwyr Creadigol yng Nghymru



Mae unigolion o fewn y tasglu yn gweithio i gefnogi’r syniad hwn trwy drafodaethau gyda CCC, Equity, Sefydliadau PCC ac unigolion. 


Arolwg Llawrydd Cymru


Rydym yn gweithio ar gasglu’r holl ddata a dderbyniwyd trwy’r arolygon Cymraeg a Saesneg. Daeth dros 400 o ymatebion i law – diolch i bawb am yr adborth! Gobeithiwn gyhoeddi ein adroddiad yn yr wythnosau nesaf.


Ein llais: Casglu profiadau artistiaid Duon sy’n Gymry neu’n byw yng Nghymru.

Ar ôl sylwi ar y diffyg cyfleoedd sydd i artistiaid Du rannu eu profiadau o fewn y sector yng Nghymru, mae Krystal S. Lowe wedi penderfynu defnyddio’i rôl ar y Tasglu Llawrydd i gasglu a rhannu profiadau byw artistiaid Duon sy’n Gymry neu’n byw yng Nghymru.


Bydd y profiadau’n cael eu casglu i sicrhau bod lleisiau’r rhai sy’n cael eu hepgor fwyaf yn cael eu clywed o’r diwedd gan y sector. Yn sgil y mudiad ‘Black Lives Matter’, ac yn seiliedig ar ymateb y sector, hoffai Krystal ddefnyddio’r llythyr cyfunol hwn i sicrhau, wrth i’r sector symud yn ei flaen, ei fod yn fwy amrywiol a hefyd yn amgylchedd iach i artistiaid Du – y rhai sy’n camu i mewn i’r sector, yn ogystal â pharchu’r gwaith angerddol a’r cyfraniad gwerthfawr mae artistiaid Du eisoes wedi’i wneud i’r sector. Ar ôl i’r llythyr hwn gael ei gwblhau, bydd yn rhan o’r ‘Zine’ gaiff ei gyhoeddi a’i ddosbarthu gan Dasglu Llawrydd y Deyrnas Unedig pan ddaw ei gyfnod i ben, yn ogystal â’i ddosbarthu i’r holl weithwyr llawrydd a’r sefydliadau sy’n gweithio yn sector y celfyddydau. Os ydych chi’n artist Du, ac yn awyddus i’ch profiadau gael eu cynnwys yn y llythyr hwn, yna cysylltwch â Krystal ar Krystalslowe.contact@gmail.com gyda’ch straeon, a hynny ym mha ffordd bynnag rydych chi’n teimlo’n fwyaf cyfforddus – drwy e-bost, llythyr neu droslais – neu cysylltwch â Krystal os yw’n well gennych chi alwad ffôn, Zoom neu ddanfon neges destun.


Dolenni Defnyddiol / Gwybodaeth:


‘Forever Emerging?’: Adroddiad ar gyfarwyddo ar gyfer y llwyfan yng Nghymru (gan Simon Harris a Bridget Keehan)


Cynllun Collective Creative: prosiect nid-er-elw gan Pearson Casting – 30 awr o sesiynau ar y diwydiant celf, yn rhad ac am ddim bob wythnos: www.collectivecreativeinitiative.co.uk


Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar ‘y defnydd o Zoom ar gyfer perfformio’, ffrydio a hawliau cerddoriaeth: https://ndcwales.co.uk/digital-hub/create-together


Mae gan One Dance UK gyfres o webinarau ‘Returning to dance’:



Mae’r Privilege Cafe yn parhau bob dydd Iau. Ebostiwch nhw ofyn am ddolen: https://www.patreon.com/PrivilegeCafe


Mwy amdanom ni:

Ffurfiwyd y Tasglu gan sefydliadau amrywiol oedd yn nodi gweithwyr llawrydd a phroses ymgeisio.

Dyma’r dolenni i’r llythyr oddi wrth Fuel ac ystadegau ar y Tasglu:

Sefydliadau yng Nghymru sydd wedi noddi aelod o’r Tasglu Llawrydd:

Fio, Hijinx Theatre, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, National Theatre Wales, Rubicon Dance, Taking Flight, Theatr Genedlaethol Cymru, Theatr Iolo, Canolfan Mileniwm Cymru. 


Aelodau noddedig o’r Tasglu Llawrydd yng Nghymru:

Connor Allen, Shakeera Ahmun, Sarah Argent, Steffan Donnelly, Garrin Clarke, Jafar Iqbal, Zosia Jo, Angharad Lee, Deborah Light, Krystal Lowe, Mathilde Lopez, Anthony Matsena, Hannah McPake a Glesni Price-Jones.

Cysylltwch â ni:

21 views0 comments

Recent Posts

See All
Post: Blog2_Post
bottom of page