top of page
Search
  • Writer's pictureTask Force Cymru

Blog 4: Arolwg Llawrydd Cymru, Ystafelloedd Werdd, a mwy!

Updated: Jul 27, 2020

Croeso!


Pwy ydyn ni?

Rydyn ni’n griw o weithwyr llawrydd o Dasglu Llawrydd y DU, yn ymateb i faterion sy’n effeithio ar weithwyr llawrydd yng Nghymru. Bydd ein hymatebion ymarferol a chreadigol yn gweithredu drwy brosiectau dan gyfyngiadau amser. Croeso i’n blog wythnosol!


Os oes unrhyw weithiwr llawrydd ag angen cymorth ariannol y funud hon, ewch i:

Beth rydyn ni wedi’i wneud yr wythnos hon:


Lansio Arolwg Gweithwyr Llawrydd Cymru:


Yn ein sgyrsiau gyda sefydliadau a gweithwyr llawrydd roeddem wedi nodi diffyg data ynghylch nifer, arbenigeddau a lleoliad gweithwyr llawrydd sy’n gweithio ym maes y theatr a pherfformio yng Nghymru. Bydd y data hwn yn ein galluogi i wneud gwell achos i’r llywodraeth a gyda sefydliadau ar gyfer cymorth ac adferiad yn y dyfodol.


Mae’r arolwg hwn:

  • yn gam cyntaf tuag at well ymwybyddiaeth o’n sefyllfa benodol ni yng Nghymru

  • ar gyfer unrhyw berson llawrydd sy’n gweithio ym maes y theatr a pherfformio yng Nghymru.

  • yn cymryd 5–10 munud i’w gwblhau.


Bydd eich atebion yn gwbl ddienw, ac nid oes unrhyw wybodaeth bersonol adnabyddadwy yn cael ei chasglu. Y dyddiad olaf i dderbyn ymatebion yw Dydd Gwener 7 Awst 2020.


Ewch ati i gwblhau’r arolwg a’i anfon at eich rhwydweithiau llawrydd!



Does dim gwybodaeth amdano ni. Dewch yn ran o'r ymgyrch!


Bydd arolwg cyflenwol gan yr undebau – yn ffocysu ar y diwydiannau creadigol ehangach – yn cael ei gyhoeddi’n fuan, a rhennir data y ddau arolwg yn eang.



Ystafelloedd Gwyrdd Tasglu Llawrydd Cymru:


Nod ein ‘Ystafelloedd Gwyrdd’ yw cofnodi lleisiau, barn a syniadau gweithwyr llawrydd ar draws y sector yng Nghymru. Bydd y sesiynau hyn yn bwydo i mewn i ragor o ymgyngoriadau manwl ac ar yr un pryd yn caniatáu i ni greu cofnod o lygad y ffynnon i adlewyrchu lleisiau gweithwyr llawrydd, sydd mor aml yn cael eu hanwybyddu. Bydd y cofnodau hyn yn cefnogi unrhyw newidiadau polisi a syniadau radical y byddwn yn eu cynnig yn ein gwaith yn y dyfodol. 

  • Bydd yr Ystafelloedd Gwyrdd yn agored i bawb ac yn cael eu cynnal ar Zoom, gyda aelod o’r Tasglu yn hwyluso’r trefniadau.

  • Bydd costau’r trefniadau mynediad i fynychu’r Ystafelloedd Gwyrdd yn cael eu talu gan Dasglu Gweithwyr Llawrydd Cymru.

  • Bydd pynciau a grwpiau penodol.

Yr wythnos nesaf, byddwn yn rhedeg yr Ystafelloedd Gwyrdd canlynol, ar gyfer:

Dylunwyr Goleuo - Dydd Llun 27ain o Orffennaf am 2 o'r gloch.

Mae Garrin Clarke wedi trefnu Ystafell Werdd ar gyfer dylunwyr goleuo. Cynhelir ar y 27ain o Orffenaf. Dolen cofrestru:

https://zoom.us/meeting/register/tJwtdumvpz0jG9TJrCW-DWYy5WarxAM7sNuA?fbclid=IwAR2diqcZv-fz2DUpYAEyvopEKxsqO7NZVEnAzGFDCFOWMQh6y1ePtEw6W68


Rheolwyr Llwyfan - Dydd Mercher 29ain o Orffennaf am 2 o'r gloch.

Mi fydd ail gyfarfod Garrin ar gyfer rheolwyr llwyfan. Cynhelir y cyfarfod ar dydd mercher y 29ain o Orffenaf. Dolen cofrestru: https://zoom.us/meeting/register/tJMpceqhqjotGNGd_dtYgPyig9TsndtU8spK


Pobl Feichiog a Rhieni Newydd – Dydd Iau 30 Gorffennaf am 10 o'r gloch.

Dewch i ymuno â Glesni Price-Jones sy’n cynnal y sesiwn hwn i glywed gan rieni newydd a’r rhai sy’n feichiog ar hyn o bryd, ac sydd oherwydd hynny’n debygol o fod yn dychwelyd i ddiwydiant gwahanol iawn ar ôl rhoi genedigaeth. Nod y sesiwn yw rhannu eich pryderon a’ch profiadau, i ba raddau mae gwahanol gynlluniau’r llywodraeth a chyllid CCC wedi bod yn hygyrch i chi, neu beidio, ac ystyried sut gallai’r diwydiant gael ei wneud yn fwy addas ar gyfer rhieni newydd yn y dyfodol. Bydd casglu eich profiadau, syniadau a barn yn caniatáu i ni ddod â nhw at y bwrdd a thanlinellu’r problemau gwirioneddol sy’n rhan o brofiad gweithwyr llawrydd yn ystod y cyfnod hwn yn eu bywydau.

Ymunwch gan ebostio: walesfreelancetaskforce@gmail.com


Yn dilyn cyfarfod yr wythnos hon yn edrych ar Theatr ar gyfer Cynulleidfaoedd Ifanc (gweler uchod) mae Sarah Argent a Hannah McPake yn datblygu trafodaeth debyg yn ecsliwsif ar gyfer pobl llawrydd sy’n gweithio yng Nghymru. Cyhoeddir y manylion yr wythnos nesaf.


Roedd 30 o artistiaid dawns llawrydd yn bresennol yn yr Ystafell Werdd Dawns/Cymru ar 16 Gorffennaf; mae is-grŵp Cymru yn gweithredu ar bwyntiau a ddaeth allan o’r cyfarfod hwnnw.


Cymeryd rhan yn y cyfarfodydd a sgyrsiau yma:


Rydyn ni’n cwrdd â Chyngor Celfyddydau Cymru y dydd Gwener hwn; ein pwyntiau allweddol yw:

  1. Setliad ariannol Llywodraeth Cymru. Rydyn ni’n chwilio am ymrwymiad o 25–30% o unrhyw setliad yn mynd i weithwyr llawrydd

  2. Trafodaeth agored ynghylch y pethau positif a’r meysydd i adeiladu arnynt o ran unrhyw grantiau sefydlogi pellach

  3. Beth yw cyfrifoldebau’r PCC/APW dros weithwyr llawrydd yn ystod y cyfnod hwn?

  4. Ymgynghori a thryloywder wrth i ni ailadeiladu ac ymadfer.


Cyfarfodydd eraill:


Bu aelodau o’r Tasglu yn mynychu Cyfarfod o Bwyllgor Cenedlaethol Cymru Equity, Beth Nesaf Caerdydd, a Thasglu Diwylliannol Cymru.


Mynychodd aelodau o’r Tasglu y Cyfarfod Diwydiant: Creative Industries Federation. Roedd yn gyfarfod diddorol, yn tanlinellu’r ffaith bod y cyfrifoldeb o amddiffyn iechyd y cyhoedd yn dod law yn llaw â chyfrifoldeb economaidd.

Mynychodd aelodau o’r Tasglu ddigwyddiad wythnosol Beth Nesaf Caerdydd lle rhoddodd Gerwyn Evans (Is-gyfarwyddwr Cymru Greadigol) a Steffan Roberts grynodeb o sefyllfa ddiweddaraf Llywodraeth Cymru ar y swm o £59 miliwn a addawyd. Yn anffodus, ni chafodd llawer ei ddatgelu.


Cynnal cyfarfod Theatr ar gyfer Cynulleidfaoedd Ifanc:

Dan ofal Sarah Argent a Hannah McPake, trefnwyd a hwyluswyd cyfarfod o bron i 40 o weithwyr llawrydd o bob rhan o Gymru a Lloegr sy’n gweithio ym maes Theatr ar gyfer Cynulleidfaoedd Ifanc. Gofynnwyd i ystod eang o gynllunwyr, perfformwyr, awduron, cyfarwyddwyr, cynhyrchwyr a rheolwyr llwyfan ateb dau gwestiwn:

  1. Fel gweithiwr llawrydd, beth sydd arnoch ei angen i wneud eich gwaith gorau?

  2. Fel gweithiwr llawrydd, beth sydd arnoch ei angen i roi grym creadigol i chi – i wneud i chi deimlo eich bod yn cael eich gwerthfawrogi?

Bydd yr atebion gonest, diddorol, ac annisgwyl weithiau, yn cael eu casglu at ei gilydd a’u dosbarthu i ffurfio agenda cyfarfodydd a thrafodaethau pellach, a chod ymddygiad da ar gyfer gweithio gyda phobl llawrydd.


Os ydych chi’n weithiwr llawrydd yn gweithio ym maes Theatr i Gynulleidfaoedd Ifanc yng Nghymru, gofynnir i chi anfon eich atebion i’r cwestiynau hyn at: sargentargent65@gmail.com.


Cymerodd Deborah ran yng nghyfarfod dawns Tasglu Llawrydd y DU gyda Chris Stenton o gwmni Pobl yn Dawnsio, a holodd am eu cynlluniau i gynnig arweiniad ar gyfer gweithgaredd cyfranogol ym maes dawns, yn debyg i’r rhai sydd wedi eu rhyddhau ar gyfer Lloegr. Maen nhw’n bwriadu gwneud hyn, ac wedi bod yn rhan o’r ymgynghori ar fater ailagor yng Nghymru.

Mae Glesni wedi bod yn cyfarfod yn unigol â gweithwyr llawrydd i drafod sut mae’r SEISS yn effeithio ar famau newydd a rhieni, gan wneud hynny cyn yr Ystafell Werdd a gynhelir yr wythnos nesaf. Gweler isod am y manylion.

Cynhaliodd Angharad Lee gyfarfod gydag artistiaid/pobl greadigol sy’n gweithio yn Rhondda Cynon Taf neu wedi eu lleoli yno. Roedd nifer dda wedi mynychu, a’r trafodaethau wedi eu canoli o gwmpas diffyg gwybodaeth ynghylch pwy yw’r gweithwyr llawrydd yn yr ardal hon. Bydd Angharad yn cynnig creu math o fap i ddangos pwy yw’r gweithwyr llawrydd o fewn RhCT, ac mae hi’n trafod y syniad hwn gyda nifer o bobl ar hyn o bryd. Roedd yna ddiffyg gwybodaeth amlwg ymhlith llawer oedd yn bresennol ynghylch grantiau CCC sydd ar gael iddynt yn ystod yr argyfwng presennol. Bwydodd Angharad yr wybodaeth hon yn ôl i’r cyfarfod Beth Nesaf y Cymoedd. Rydyn ni’n gobeithio adeiladu ar y trafodaethau hyn a gweithredu rhyw fath o bwynt ffocws sy’n gyraeddadwy.


Mynychodd Angharad sesiwn #ResiliArts. Mae hi’n annog unrhyw un sydd ag angen tipyn o ysbrydoliaeth i gymryd rhan. Roedd yn sesiwn gwych.


Prosiect llesiant:

Mae prosiect llesiant wedi datblygu o’r sgyrsiau a gafwyd gydag actorion, ac mae Angharad yn darparu hwn ynghyd â Becky Davies, sy’n artist cysylltiol gyda Leeway Productions. Os oes unrhyw actorion ag angen cymorth ar hyn o bryd, mae croeso i chi gysylltu a byddwn yn gweithio i ddarparu ail rownd o’r prosiect hwn. Ebost: leewayprods@gmail.com


Does ganddo ni ddim llun o'n cyfarfod Zoom yr wythnos yma, ond mae gan Steffan a Glesni hwn yn lle. Dyma'r tro cyntaf i unrhyw aelod o'r Tasglu gyfarfod wyneb yn wyneb (yn cadw pellter cymdeithasol!). Maent yn falch i fod yn fwy na rhai pixels ar sgrin:



Dolenni Defnyddiol / Gwybodaeth:


Cyfarfod o’r Rhwydwaith Cyfarwyddwyr ar gyfer ‘egin-gyfarwyddwyr’: 3–4.30pm ddydd Mawrth 28 Gorffennaf.

Am ragor o fanylion, neu i drefnu lle, cysylltwch â: jacifanmoore@gmail.com.


Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru wedi rhyddhau cyfle i goreograffwyr llawrydd gymryd rhan yn eu Laboratori yn yr hydref.

https://ndcwales.co.uk/index.php/freelance-opportunity-laboratori-choreographers


Mae Comisiynau Ffolio Ffilm Cymru ar agor ar gyfer ceisiadau http://www.ffilmcymruwales.com/index.php/en/film-makers/ffolio


Mae gan One Dance UK gyfres o webinarau ‘Returning to dance’

Cult Cymru: Sesiwn Holi ac Ateb ar Asesiadau Risg – Covid-19

29 Gorffennaf


Cult Cymru – Cwrs Digidol: Meistroli Google Drive

28 Gorffennaf


Mae Tŷ Pawb yn chwilio am weithiau i’w hystyried ar gyfer eu harddangosfa: Arddangosfa sy’n Dathlu Creadigrwydd yn ystod y cyfnod Cloi-i-lawr https://www.typawb.wales/ty-pawb-open/

Mae’r Privilege Cafe yn parhau bob dydd Iau. Ebostiwch nhw i ofyn am ddolen: https://www.patreon.com/PrivilegeCafe


Mwy amdanom ni:

Ffurfiwyd y Tasglu gan sefydliadau amrywiol gan nodi gweithwyr llawrydd a phroses ymgeisio. Dyma’r dolenni i’r llythyr oddi wrth Fuel ac ystadegau ar y Tasglu:


Sefydliadau yng Nghymru sydd yn noddi aelod o’r Tasglu Llawrydd:

Fio, Hijinx Theatre, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, National Theatre Wales, Rubicon Dance, Taking Flight, Theatr Genedlaethol Cymru, Theatr Iolo, Canolfan Mileniwm Cymru.


Aelodau noddedig o’r Tasglu Llawrydd yng Nghymru:

Connor Allen, Shakeera Ahmun, Sarah Argent, Steffan Donnelly, Garrin Clarke, Jafar Iqbal, Zosia Jo, Angharad Lee, Deborah Light, Krystal Lowe, Mathilde Lopez, Anthony Matsena, Hannah McPake a Glesni Price-Jones.

Cysylltwch â ni:

Arolwg: freelance.wales

23 views0 comments

Recent Posts

See All
Post: Blog2_Post
bottom of page