top of page
Search
  • Writer's pictureTask Force Cymru

Blog 5: Ein gwaith a'r Cronfa Adfer Diwylliant

Updated: Jul 31, 2020

Croeso!



Pwy ydyn ni?


Rydyn ni’n griw o weithwyr llawrydd o Dasglu Llawrydd y DU, yn ymateb i faterion sy’n effeithio ar weithwyr llawrydd yn Nghymru. Bydd ein hymatebion ymarferol a chreadigol yn cael eu gweithredu drwy brosiectau dan gyfyngiadau amser. Croeso i’n blog wythnosol!

Os oes unrhyw weithiwr llawrydd ag angen cymorth ariannol y funud hon, ewch i: https://theatresupport.info/

https://www.trtf.com/fleabag-support-fund – bydd y gronfa’n ailagor rhwng 3–7 Awst.



Beth rydyn ni wedi’i wneud yr wythnos hon:


Ymateb i gynllun newydd Llywodraeth Cymru, y Gronfa Adfer Diwylliant gwerth £53m:

Ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru am Gronfa Adfer Diwylliant gwerth £53m ar gyfer y sector diwylliant yng Nghymru, a gwneud hynny ar-lein, ar Radio’r BBC, ac ar Newyddion S4C. Rydym yn ddiolchgar am y gefnogaeth, yn enwedig gan fod y datganiad i’r wasg yn nodi y gall sefydliadau YNGHYD AG unigolion wneud cais am gymorth ychwanegol. Mae’n dystiolaeth i waith nifer fawr o unigolion a sefydliadau sydd wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod gweithwyr llawrydd yn cael eu cynnal yn briodol.

Fodd bynnag, mae’r amser yn brin iawn yn achos llawer o weithwyr llawrydd – mae arnom angen mwy o fanylion, a hynny cyn gynted ag y bo modd. Rydyn ni’n gofyn am eglurdeb, cyflymder, a rhagor o gyfathrebu gan Lywodraeth Cymru ar y canlynol:

  • Pa ganran fydd yn mynd i weithwyr llawrydd unigol? Rydyn ni wedi bod yn ymgyrchu gyda Llywodraeth Cymru a CCC am o leiaf 30%.

  • Sut bydd unigolion yn cyflwyno cais i Lywodraeth Cymru ryddhau yr arian? Yn ein cyfarfod gyda Chyngor Celfyddydau Cymru (CCC) ddydd Gwener diwethaf, buom yn gofyn am broses syml o gyflwyno cais, heb y cap o 50% incwm llawrydd sydd wedi atal cynifer o bobl rhag cael help, a gwell ymgyrch allgymorth gan CCC i sicrhau bod pawb yn clywed sut i wneud cais am y cyllid – yn enwedig y rhai sydd mewn mwyaf o angen. Yn ogystal, cafodd yr awgrymiadau hyn eu hanfon ymlaen mewn llythyr at Lywodraeth Cymru, a byddwn yn anfon llythyr arall i sicrhau bod y syniadau yma yn cael gwrandawiad.

  • Beth yw’r ‘cytundeb diwylliannol’ bondigrybwyll, a phwy sy’n mynd i’w ysgrifennu?

Bydd Tasglu Llawrydd Cymru hefyd yn cynnig cymorth rhad ac am ddim i weithwyr llawrydd i’w helpu i wneud cais am y rownd ariannu ychwanegol hon. Cyn gynted ag y cawn ni ragor o fanylion gan y Llywodraeth, byddwn yn gadael i chi wybod.


Diweddariad ar gyfarfod Cyngor Celfyddydau Cymru:

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cytuno i ymgynghori â ni mewn cyfarfod rheolaidd (bob yn ail wythnos); ein gobaith yw y bydd hwn yn lwybr dwy-ffordd, lle byddwn yn ymgynghori â’n gilydd ar benderfyniadau a strategaethau wrth i’r diwydiant symud yn ei flaen.

Roedden ni wedi awgrymu cynllun grant meicro syml ar gyfer gweithwyr llawrydd, petai unrhyw gyllid ychwanegol yn dod i sector y celfyddydau (gweler uchod).

Buon ni’n gofyn am ddata ar pam mai dim ond £5.5m o gronfa argyfwng CCC gwerth £7.5m sydd wedi cael ei wario, pan fo llawer o bobl yn aflwyddiannus gyda’u ceisiadau am grant. Clywsom fod rhai cronfeydd wedi eu gor-danysgrifio, eraill wedi eu tan-danysgrifio, ac rydym wedi gofyn am wybodaeth ynghylch sut cafodd y balans ei gronni, a pham na ellid bod wedi ei drosglwyddo i gronfa oedd wedi ei gor-danysgrifio.

Gwnaethom gais am atebolrwydd cryfach gyda chwmnïau PCC/APW yn anrhydeddu cytundebau gweithwyr llawrydd. Mae hyn wedi bod yn anwastad iawn ar draws y sector. Cynigiodd CCC y gellid gwneud hyn yn amod o grantiau PCC /APW wrth symud ymlaen.


Arolwg Llawrydd Cymru:

Yng ngoleuni cyhoeddiad y Llywodraeth, mae data ar weithwyr llawrydd yng Nghymru yn bwysicach nag erioed. Bydd y data yn helpu ein hachos wrth i fanylion y gronfa gael eu cwblhau. Gofynnwn yn garedig i chi rannu Arolwg Llawrydd Cymru ar eich rhwydweithiau, a’i gwblhau eich hun os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny. Mae’r arolwg:


- yn gam cyntaf tuag at gael gwell ymwybyddiaeth o’n sefyllfa benodol ni yng Nghymru.


- ar gyfer unrhyw berson llawrydd sy’n gweithio ym maes y theatr a pherfformio yng Nghymru.


- yn cymryd 5–10 munud i’w gwblhau.


Mae eich atebion yn gwbl ddi-enw, ac nid oes unrhyw wybodaeth yn cael ei chasglu y gellid ei defnyddio i adnabod unrhyw un. Y dyddiad olaf ar gyfer ymatebion yw: Dydd Gwener 7 Awst 2020.



Mae’r data dros dro sydd gennym hyd yn hyn yn peintio darlun brawychus, a gallwn ddefnyddio’r ystadegau hyn i adnabod a sbarduno cymorth ar gyfer y rhai sydd fwyaf mewn angen:

  • Mae 95% wedi colli gwaith yn sgil Covid-19

  • Mae 30% heb dderbyn unrhyw gymorth ariannol

  • Mae 40% yn ansicr a fyddan nhw’n aros yn y diwydiant ai peidio (o’r sylwadau a dderbyniwyd, mae llawer o’r rhai sy’n gobeithio aros yn y diwydiant yn debygol o adael Cymru).



Ystafelloedd Gwyrdd Tasglu Llawrydd Cymru:


Nod ein cynllun ‘Ystafell Werdd’ yw gwrando ar leisiau, barn a syniadau gweithwyr llawrydd ar draws y sector yng Nghymru. Bydd y sesiynau hyn yn bwydo i mewn i ymgyngoriadau mwy manwl, ac yn caniatáu i ni greu cofnod uniongyrchol i adlewyrchu lleisiau gweithwyr llawrydd sydd mor aml yn cael eu diystyru. Bydd y cofnodion hyn yn cefnogi unrhyw newid polisi a syniadau radical y byddwn yn eu cynnig yn ein gwaith yn y dyfodol.

  • Mae’r Ystafelloedd Gwyrdd yn cynnig gwahoddiad agored i chi drafod eich sefyllfa ar hyn o bryd, ac edrych i’r dyfodol; cynhelir y rhain trwy dechnoleg Zoom, yn cael eu hwyluso gan aelod o’r Tasglu.

  • Bydd gan bob Ystafell Werdd bwnc penodol neu gynulleidfa darged.

  • Bydd costau anghenion mynediad i fynychu’r Ystafelloedd Gwyrdd yn cael eu talu gan Dasglu Llawrydd Cymru


Ystafelloedd Gwyrdd – dyddiadau ar gyfer eich dyddiaduron:


Gweithwyr llawrydd byddar ac anabl: Gwener 7ed Awst, 11.30yb.


Dolen cofrestru yma. Mi fydd yr Ystafell Werdd yma yn ffordd ymlacedig o siarad am beth rydym ei angen fel gweithwyr llawrydd. Bydd 2x dehonglwyr BSL a bydd capsiwn StreamText. Os oes gennych unrhyw ofynion hygyrchedd, plis gadewch i ni wybod: walesfreelancetaskforce@gmail.com


Ystafell Werdd Theatr i Gynulleidfaoedd Ifanc, Dydd Mercher 12 Awst.


Bydd Ystafell Werdd Llawrydd Cymru ar gyfer unrhyw weithwyr llawrydd sydd â diddordeb mewn Theatr ar gyfer Cynulleidfaoedd Ifanc (TYA) yn cael ei chynnal brynhawn Mercher 12 Awst – yr amser i’w gadarnhau. Ebostiwch Sarah Argent i gofrestru eich diddordeb: sargentargent65@gmail.com



Diweddariad ar Ystafelloedd Gwyrdd yr wythnos hon:


Yr wythnos hon, bu Glesni’n cwrdd â menywod beichiog a rhieni newydd i drafod eu pryderon a’r heriau maen nhw’n eu hwynebu yn y byd ‘normal newydd’. Mae’n berffaith glir fod gweithwyr llawrydd sy’n dewis dechrau teulu tra’n gweithio ym maes y celfyddydau yn wynebu heriau sydd eisoes yn anferth, ac mae Covid wedi ychwanegu at yr heriau hynny. Roedd y materion a drafodwyd yn cynnwys y canlynol:


  • Dim canllawiau ar gyfer gweithwyr llawrydd beichiog sy’n dechrau gweithio wrth i ganllawiau ymbellhau cymdeithasol gael eu llacio rywfaint, ond nid oes brechiad ar gael. 

  • Ychydig neu ddim cymorth ychwanegol i rieni llawrydd sydd bellach yn gorfod bod yn athrawon a gofalwyr llawn amser, yn ogystal ag yn gwneud a chreu yn ystod y pandemig. 

  • Sut gall absenoldeb mamolaeth atal unrhyw fomentwm a enillwyd mewn gyrfa yn y celfyddydau, a sut i liniaru hyn.

  • Yr angen am fwy o ddewisiadau hyblyg ar gyfer gofal plant yn cael eu cynnig gan gwmnïau sy’n cyflogi rhieni llawrydd a chanddynt blant ifanc, yn enwedig y sefydliadau mwy o ran maint.

  • Gweithwyr llawrydd yn cael trafferth i ddod o hyd i wybodaeth am eu hawliau fel person beichiog ac fel rhiant.

  • Diffyg cwmnïau Cymreig sydd wedi arwyddo ar gyfer siarter PiPA

  • Yr heriau penodol a wynebir gan wahanol grwpiau o weithwyr llawrydd yn y cyfnod hwn yn eu bywydau, a sut y dylai cwmnïau gydnabod nad yw un ateb yn addas ar gyfer pawb.


Cymerwyd rhan yn y cyfarfodydd a’r trafodaethau canlynol:

Roedd nifer o weithwyr llawrydd sydd wedi eu lleoli yng Nghymru ymhlith y 60 o bobl a fynychodd gyfarfod o gynrychiolwyr o bob rhan o’r DU ar 21 Gorffennaf i ystyried y cwestiynau canlynol:

  • Fel gweithwyr llawrydd, beth sydd arnoch ei angen i wneud eich gwaith gorau?

  • Fel gweithwyr llawrydd, beth sydd arnoch ei angen i roi grym creadigol i chi – i wneud i chi deimlo eich bod yn cael eich gwerthfawrogi?

Dyma grynodeb o’r cyfarfod hwnnw (yn cynnwys cwmwl geiriau hawdd ei ddarllen!):

Bydd Ystafell Werdd Lawrydd TYA Cymru yn ddatblygiad o’r drafodaeth hon. Yn y cyfamser, os hoffech ateb un o’r cwestiynau hyn, neu’r ddau, gofynnir i chi eu ebostio at sargentargent65@gmail.com.


Os hoffech rhagor o fanylion am yr Ystafell Werdd ar 12 Awst, mae croeso i chi hefyd ebostio Sarah ar sargentargent65@gmail.com.


Lles


Mae Angharad wedi cychwyn ei phrosiect lles, sydd wedi cael derbyniad positif. Rydyn ni’n gobeithio dod o hyd i gyllid i ymestyn hwn ymhellach yn y dyfodol.


Dolenni Defnyddiol / Gwybodaeth:


Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru wedi rhyddhau cyfle i goreograffwyr llawrydd gymryd rhan yn eu Laboratori yn yr hydref:

https://ndcwales.co.uk/index.php/freelance-opportunity-laboratori-choreographers



Mae Comisiynau Ffolio Ffilm Cymru yn agored ar gyfer ceisiadau http://www.ffilmcymruwales.com/index.php/en/film-makers/ffolio


Mae gan One Dance UK gyfres o webinarau ‘Returning to dance’ https://www.onedanceuk.org/programme/return-to-dance/



Mae Tŷ Pawb yn chwilio am weithiau i’w hystyried ar gyfer eu harddangosfa: Arddangosfa sy’n Dathlu Creadigrwydd yn ystod y cyfnod Cloi-i-lawr https://www.typawb.wales/ty-pawb-open/


Mae’r Privilege Cafe yn parhau bob dydd Iau. Ebostiwch nhw i ofyn am ddolen: https://www.patreon.com/PrivilegeCafe



Mwy amdanom ni:


Ffurfiwyd y Tasglu gan sefydliadau amrywiol oedd yn nodi gweithwyr llawrydd a phroses ymgeisio.

Dyma’r dolenni i’r llythyr oddi wrth Fuel ac ystadegau ar y Tasglu:

Sefydliadau yng Nghymru sydd wedi noddi aelod o’r Tasglu Llawrydd:

Fio, Hijinx Theatre, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, National Theatre Wales, Rubicon Dance, Taking Flight, Theatr Genedlaethol Cymru, Theatr Iolo, Canolfan Mileniwm Cymru. 


Aelodau noddedig o’r Tasglu Llawrydd yng Nghymru:

Connor Allen, Shakeera Ahmun, Sarah Argent, Steffan Donnelly, Garrin Clarke, Jafar Iqbal, Zosia Jo, Angharad Lee, Deborah Light, Krystal Lowe, Mathilde Lopez, Anthony Matsena, Hannah McPake a Glesni Price-Jones.

Cysylltwch â ni

12 views0 comments

Recent Posts

See All
Post: Blog2_Post
bottom of page