Croeso!
Pwy ydyn ni?
Rydyn ni’n griw o weithwyr llawrydd o Dasglu Llawrydd y DU, yn ymateb i faterion sy’n effeithio ar weithwyr llawrydd yng Nghymru. Bydd ein hymatebion ymarferol a chreadigol yn cael eu gweithredu drwy brosiectau dan gyfyngiadau amser. Croeso i’n blog wythnosol!
Os oes unrhyw weithiwr llawrydd ag angen cymorth ariannol y funud hon, ewch i: https://theatresupport.info/
https://www.trtf.com/fleabag-support-fund – bydd y gronfa yn cau heddiw, 7ed Awst.
Beth rydyn ni wedi’i wneud yr wythnos hon:
Ein llais: Casglu profiadau artistiaid Duon sy’n Gymry neu’n byw yng Nghymru.
Ar ôl sylwi ar y diffyg cyfleoedd sydd i artistiaid Duon rannu eu profiadau o fewn y sector yng Nghymru, mae Krystal S. Lowe wedi penderfynu defnyddio’i rôl ar y Tasglu Llawrydd i gasglu a rhannu profiadau byw artistiaid Duon sy’n Gymry neu’n byw yng Nghymru.
Bydd y profiadau’n cael eu casglu i sicrhau bod lleisiau’r rhai sy’n cael eu hepgor fwyaf yn cael eu clywed o’r diwedd gan y sector.
Yn sgil y mudiad ‘Black Lives Matter’, ac yn seiliedig ar ymateb y sector, hoffai Krystal ddefnyddio’r llythyr cyfunol hwn i sicrhau, wrth i’r sector symud yn ei flaen, ei fod yn fwy amrywiol a hefyd yn amgylchedd iach i artistiaid Du – y rhai sy’n camu i mewn i’r sector, yn ogystal â pharchu’r gwaith angerddol a’r cyfraniad gwerthfawr mae artistiaid Du eisoes wedi’i wneud i’r sector.
Ar ôl i’r llythyr hwn gael ei gwblhau, bydd yn rhan o’r ‘Zine’ gaiff ei gyhoeddi a’i ddosbarthu gan Dasglu Llawrydd y Deyrnas Unedig pan ddaw ei gyfnod i ben, yn ogystal â’i ddosbarthu i’r holl weithwyr llawrydd a’r sefydliadau sy’n gweithio yn sector y celfyddydau.
Os ydych chi’n artist Du, ac yn awyddus i’ch profiadau gael eu cynnwys yn y llythyr hwn, yna cysylltwch â Krystal ar Krystalslowe.contact@gmail.com gyda’ch straeon ym mha ffordd bynnag rydych chi’n teimlo’n fwyaf cyfforddus – drwy e-bost, llythyr neu droslais – neu cysylltwch â Krystal os yw’n well gennych chi alwad ffôn, Zoom neu ddanfon neges destun.
Ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am ragor o fanylion am y Gronfa Adfer Diwylliant gwerth £53m a’r ‘Cytundeb Diwylliannol’ bondigrybwyll.
Mae ein llythyr (cliciwch i'w ddarllen) yn gofyn am i leiafswm o 25–30% o’r gronfa hon fynd i unigolion llawrydd sydd mewn angen, gydag amodau penodol wedi eu tynnu allan i’w gwneud yn rhwyddach ac yn fwy llyfn. Yn ôl yr hyn a ddeallwn ni, bydd y gronfa unigolion yn cael ei rheoli gan y llywodraeth, ac rydyn ni’n eu hannog i sicrhau bod gweithwyr llawrydd yn y theatr a maes perfformio yn gymwys ar gyfer y gronfa hon (yn hytrach na disgwyl i gyllid ‘ddiferu i lawr’ i unigolion o grantiau a roddwyd i sefydliadau, sy’n cael eu rheoli gan Gyngor Celfyddydau Cymru). Rydym wedi pwysleisio’r rôl bwysig y bydd gweithwyr llawrydd yn ei chwarae yn y broses o adfer yr economi, yn enwedig mewn perthynas â Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol. Rydyn ni’n aros am ymateb.
Arolwg Llawrydd Cymru:
Bydd yr Arolwg yn cau am hanner nos HENO! Diolch yn fawr i bawb sydd eisoes wedi ymateb. Hyd yn hyn, rydyn ni wedi derbyn dros 400 o ymatebion, a byddwn yn mynd i’r afael â’r data i gynhyrchu adroddiad yn fuan iawn.
Os nad ydych eto wedi ymateb i’r Arolwg, mae rhywfaint o amser yn dal ar ôl!
Yng ngoleuni cyhoeddiad y Llywodraeth, mae data ar weithwyr llawrydd yng Nghymru yn bwysicach nag erioed. Bydd y data yn helpu ein hachos wrth i fanylion y gronfa gael eu cwblhau. Gofynnwn yn garedig i chi rannu Arolwg Llawrydd Cymru ar eich rhwydweithiau, a’i gwblhau eich hun os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny.
Mae’r arolwg:
- yn gam cyntaf tuag at gael gwell ymwybyddiaeth o’n sefyllfa benodol ni yng Nghymru.
- ar gyfer unrhyw berson llawrydd sy’n gweithio ym maes y theatr a pherfformio yng Nghymru.
- yn cymryd 5–10 munud i’w gwblhau.
Mae eich atebion yn gwbl ddi-enw, ac nid oes unrhyw wybodaeth yn cael ei chasglu y gellid ei defnyddio i adnabod unrhyw un. Y dyddiad olaf ar gyfer ymatebion yw: Hanner Nos Ddydd Gwener 7 Awst 2020.
Mae’r data sydd gennym hyd yn hyn yn peintio darlun brawychus, a gallwn ddefnyddio’r ystadegau hyn i adnabod a sbarduno cymorth ar gyfer y rhai sydd fwyaf mewn angen:
Mae 95% wedi colli gwaith yn sgil Covid-19
Mae 30% heb dderbyn unrhyw gymorth ariannol
Mae 40% yn ansicr a fyddan nhw’n aros yn y diwydiant ai peidio (o’r sylwadau a dderbyniwyd, mae llawer o’r rhai sy’n gobeithio aros yn y diwydiant yn debygol o adael Cymru).
Dolenni Defnyddiol / Gwybodaeth:
Mae gan One Dance UK gyfres o webinarau ‘Returning to dance’: https://www.onedanceuk.org/programme/return-to-dance/
Diverse Cymru: All Our Stories: https://www.youtube.com/watch?v=xQxWdmTELSY&feature=youtu.be
Mae Tŷ Pawb yn chwilio am weithiau i’w hystyried ar gyfer eu harddangosfa (DYDDIAD CAU HEDDIW, 7 AWST): Arddangosfa sy’n Dathlu Creadigrwydd yn ystod y cyfnod Cloi-i-lawr https://www.typawb.wales/ty-pawb-open/
Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru wedi rhyddhau cyfle i goreograffwyr llawrydd gymryd rhan yn eu Laboratori yn yr hydref (DYDDIAD CAU HEDDIW, 7 AWST):
https://ndcwales.co.uk/index.php/freelance-opportunity-laboratori-choreographers
Mae Comisiynau Ffolio Ffilm Cymru yn agored ar gyfer ceisiadau (DYDDIAD CAU HEDDIW, 7 AWST): http://www.ffilmcymruwales.com/index.php/en/film-makers/ffolio
Mae’r Privilege Cafe yn parhau bob dydd Iau. Ebostiwch nhw i ofyn am ddolen: https://www.patreon.com/PrivilegeCafe
Mwy amdanom ni:
Ffurfiwyd y Tasglu gan sefydliadau amrywiol oedd yn nodi gweithwyr llawrydd a phroses ymgeisio.
Dyma’r dolenni i’r llythyr oddi wrth Fuel ac ystadegau ar y Tasglu:
Sefydliadau yng Nghymru sydd wedi noddi aelod o’r Tasglu Llawrydd:
Fio, Hijinx Theatre, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, National Theatre Wales, Rubicon Dance, Taking Flight, Theatr Genedlaethol Cymru, Theatr Iolo, Canolfan Mileniwm Cymru.
Aelodau noddedig o’r Tasglu Llawrydd yng Nghymru:
Connor Allen, Shakeera Ahmun, Sarah Argent, Steffan Donnelly, Garrin Clarke, Jafar Iqbal, Zosia Jo, Angharad Lee, Deborah Light, Krystal Lowe, Mathilde Lopez, Anthony Matsena, Hannah McPake a Glesni Price-Jones.
Cysylltwch â ni:
Facebook: https://www.facebook.com/TaskForceCymru
Twitter : https://twitter.com/TaskForceCymru
تعليقات