top of page
Search
  • Writer's pictureTask Force Cymru

Blog Wythnosol! 3ydd Gorffennaf 2020

Helo! Pwy ydym ni?

Casgliad o weithwyr llawrydd o’r Tasglu Llawrydd Cenedlaethol yn ymateb i broblemau sy’n effeithio gweithwyr llawrydd yng Nghymru. Byddwn yn gweithio ar brosiectau creadigol ac ymarferol dros amser penodol. Byddwn yn cydweithio efo sefydliadau tebyg i ni ar ein gwaith lobio y Llywodraeth a sicrhau cefnogaeth ariannol i weithwyr llawrydd.


Sut cafon ein sefydlu?

Cawsom ein sefydlu gan gymysgedd o sefydliadau yn dewis gweithwyr llawrydd a drwy geisiadau ar-lein. Rydym yn cael ein talu am 13 diwrnod o waith, mae rhai ohonom yn rhannu y sywdd. Dyma fwy o wybodaeth mewn llythyr gan Fuel a ystadegau am y Tasglu:



Sefydliadau yng Nghymru sydd wedi noddi aelod ar y Tasglu Cenedlaethol:

Fio, Hijinx Theatre, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, National Theatre Wales, Rubicon Dance, Taking Flight, Theatr Genedlaethol Cymru, Theatr Iolo, Canolfan Mileniwm Cymru.

Aelodau o’r Tasglu Cenedlaethol yng Nghymru:

Sarah Argent, Steffan Donnelly, Garrin Clarke, Zosia Jo, Angharad Lee, Deborah Light, Krystal Lowe, Mathilde Lopez, Hannah McPake, Gavin Porter, Glesni Price-Jones.

Cysylltwch efo ni:

Os oes unrhyw weithwyr llawrydd angen cymorth rwan ewch i:

Ein gwaith hyd yn hyn:

Mae aelodau’r Tasglu wedi cyfarfod dwy waith, wedi cyfarfod SOLT/UK Theatre, Equity, Cyngor Celfyddydau Lloegr, wedi siarad efo gweithwyr llawrydd, sefydlu cyfarfod efo Cyngor Celfyddydau Cymru, ceisio am arian ar gyfer gweithwyr llawrydd Cymru i gymeryd rhan mewn trafodaethau, ymuno efo isgrwpiau - yn cynnwys WalesCymru, Theatr cynulleidfaoedd ifanc, Dawns, Rhieni a Gofalwyr, a mae’r aelodau mewn cysylltiad efo theatrau a gweithwyr polisi yng Nghymru.

Rydym yn cyfarfod efo gweithwyr llawrydd Cymru i glywed eu problemau a’u awgrymiadau. Byddwn yn cyfarfod efo Cyngor Celfyddydau Cymru i drafod cynlluniau i’r dyfodol. Bydd grwpiau Creu Cymru yn ail agor yn fuan a mi fydden nhw yn sicrhau bod gweithwyr llawrydd yn bresennol ac yn cael eu talu am eu hamser. Rydym yn rhannu adnoddau er mwyn cefnogi gweithwyr llawrydd (gweler ison) a’n cydweithio efo sefydliadau gyda amcanion tebyg er mwyn cael un llais dros Gymru.

Rydym wedi ysgrifennu llythyr agored yn gofyn i sefydliadau Portffolio Celfyddydol Cymru a sefydliadau eraill am arian fel ein (aelodau tasglu Cymru) bod yn gallu talu gweithwyr llawrydd i siarad efo ni - yn enwedig pobl na fuasai yn gallu siarad efo ni heb hyn er mwyn sicrhau bod eu barn nhw yn cael ei gysidro: cysylltwch a ni os ydych angen hyn neu yn gwybod am rhywun sydd ei angen: walesfreelancetaskforce@gmail.com.

Elfennau o’n gwaith hyd yn hyn:

  1. Nid yw’r Senedd yn cyfeirio at Dasglu Diwydiant - rydym yn pryderu am hyn a’n ceisio newid y penderfyniad. Mwy o wybodaeth yn fuan.

  2. Mae gweithwyr llawrydd yn colli allan ar daliadau Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth (CCIH/‘SEISS’). Byddwn yn trafod hyn efo’r Senedd.

  3. Newid statws Artistiaid - edrych ar ‘UBI’/model Ffrengig o statws intermittent, a statws refeniw ar gyfer unigolion gan CCC.

  4. Ailddychmygu tirlun wedi Covid - ffocws ar amrywiaeth a chynhwysiant.

  5. Theatr Pobl Ifanc a pwysigrwydd theatr agored i bawb - ymuno ag ymgyrch cenedlaethol.

  6. Tirlun sy’n canolbwyntio ar Gaerdydd - problem o ddiffyg gofodau ar draws y sector. Cymru fel casgliad o drefi. Angenrheidiol bod hyn yn cael ei gydnabod.

  7. Effaith ar weithwyr ac artistiaid drwy gyfrwng y Gymraeg.

  8. Gweithio ar ffyrdd o gasglu data i Gymru.

  9. Ffyrdd gorau o weithio rhwng weithwyr llawrydd a sefydliadau.

  10. Cyfrifoldebau beichiogrwydd a gofalu - sut i gadw merched yn y gweithle yn ystod y cyfnod yma?

  11. Pryd fydd CCC yn ail-agor ceisiadau grantiau a pa fath o gymorthdal fydd ar gael?

  12. A ddylai Tasglu Cymru fodoli ar ol y 13 wythnos a benodwyd iddynt er mwyn cael effaith hir-dymor ar y sector?


Beth nesaf?

Byddwn yn rhannu datblygiadau ar y gwaith uchod ar ein cyfryngau cymdeithasol a’r blog wythnosol.


Byddwn yn cysylltu a Cyfarwyddwyr Artistig theatrau Cymru er mwyn sicrhau bod aelod o’r Tasglu yn bresennol yn eu cyfarfodydd - fel bod ein llais yn cael eu glywed gan yr adeiladau a’r sefydliadau.

Rydym yn awyddus i gysylltu mewn deialog agored efo mwy o weithwyr llawrydd yng Nghyrmu. Mae hyn yn helpu ni i gynrychioli’r problemau sy’n eich effeithio a mae’n rhoi cyfle i ni gyfarfod i rannu syniadau am y dyfodol. Byddwn yn lawnsio prosiect Man Cyfarfod wythnos nesaf - gofod ar-lein i grwpiau o 10 weithwyr llawrydd i gyfarfod efo’r Tasglu i drafod problemau llosg. Bydd y grwpiau hyn yn hygyrch, ac yn yr iaith Gymraeg a Saesneg. Bydd mwy o wybodaeth am sut i ymuno ar y blog yma a’n cyfryngau cymdeithasol wythnos nesaf!

Dyma ychydig o gwestiynnau i’ch helpu i feddwl be ydych angen ar hyn o bryd ac yn y dyfodol? Gadewch i ni wybod gan ymuno a un o’r Man Cyfarfod (gwybodaeth ar cyfryngau cymdeithasol wythnos nesaf!) neu ebostio ni ar: walesfreelancetaskforce@gmail.com

  • Beth mae gweithwyr llawrydd angen yn ymarferol rwan?

  • Beth yw’r ffordd orau i gael arian atoch?

  • Sut ddylai llywodraeth a sefydliadau asesu pwy sydd angen cymorth?

  • Sut ydych chi am adfer o’r sefyllfa yma? Sut mae hynny’n edrych a be wnaiff gadw chi yn y sector?

  • Beth ydych chi angen er mwyn llesiant?



LINCS DEFNYDDIOL:


Arolwg Senedd ar effaith Covid19 ar y sector: https://senedd.wales/laid%20documents/cr-ld13215/cr-ld13215%20-e.pdf

Pethau i wneud ar hyn o bryd:

Anfonwch lythyr at eich Aelod Seneddol San Steffan:

Ymchwiliad Senedd i’r achosion o COVID-19:

CYFLEOEDD: Mae Theatr Clwyd yn edrych am artistiaid yng Ngogledd Cymru ar gyfer gwaith dros yr haf:

Cyfle Groundwork:

Wales Culture Race TaskForce:

Bydd tasglu #walesculturerace yn cael ei sefydlu. Am fwy o wybodaeth a sut i ymuno, ebostiwch: walesculturerace@gmail.com

Man Cyfarfod y Tasglu (mwy o wybodaeth wythnos nesaf).

ADNODDAU AM DDIM AR-LEIN A CYRSIAU:

Covid-19 Freelance Artist Resource: https://www.freelanceartistresource.com/

Freelancers Make Theatre Work: https://www.freelancersmaketheatrework.com/

Cefnogaeth yn ystod cyfnod Coronavirus: https://theatresupport.info/


Digwyddiadau am ddim/gweithdai efo SPACE (Saesneg): https://space.org.uk/





Adnoddau Llesiant:




19 views0 comments

Recent Posts

See All
Post: Blog2_Post
bottom of page