top of page
Search
  • Writer's pictureTask Force Cymru

Ypdet Wythnosol 2!

Rydym yn gasgliad o weithwyr llawrydd o’r Tasglu Llawrydd Cenedlaethol yn ymateb i broblemau sy’n effeithio gweithwyr llawrydd yng Nghymru. Byddwn yn gweithio ar brosiectau creadigol ac ymarferol dros amser penodol. Croeso i ein blog wythnosol!

Os oes unrhyw weithwyr llawrydd angen cymorth rwan ewch i:


Beth rydyn ni wedi’i wneud yr wythnos hon:

Yn ystod yr wythnos, mae’r Tasglu wedi siarad gyda dros 40 o weithwyr llawrydd, gan wrando ar eu pryderon a’u hawgrymiadau. Mae hyn wedi bwydo i mewn i’r gwaith a welwch isod.

Arwyddodd y Tasglu lythyr oddi wrth y Diwydiant Theatr yng Nghymru at Lywodraeth Cymru, yn argymell tasglu ar lefel llywodraeth (a ddylai gynnwys gweithwyr llawrydd) i roi cyngor ar yr adferiad. Roedd y llythyr yn amlygu’r effaith bositif ac unedig y gallai’r celfyddydau ei chael ar yr adferiad yng Nghymru. Rydyn ni’n aros am ymateb oddi wrth y llywodraeth a byddwn yn eich diweddaru ar y datblygiadau a ddaw yn sgil y llythyr hwn.

Rydyn ni’n aros yn eiddgar am ragor o wybodaeth gan yr Adran Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, a Llywodraeth Cymru, ynghylch y gronfa gwerth £59m a gyhoeddwyd fin nos Sul 5 Gorffennaf. Credwn yn angerddol y dylai’r gronfa hon helpu gweithwyr llawrydd yn ogystal â’r sefydliadau ‘brics a mortar’.

Bu Hannah McPake yn gweithio gyda Sarah Argent ar bolisi gwaith mewnol y gall cangen Cymru o’r Tasglu ei ddilyn. Yn ogystal, roedd Hannah yn gyfrifol am hwyluso ymgyngoriadau gyda rhai oedd wedi graddio’n ddiweddar, hwyluswyr ac aelodau o Academi Hijinx.

Ymhlith ystadegau sobreiddiol eraill ynghylch dyfodol ei gweithlu, mae’r adroddiad ‘COVID-19: Llwybrau at Adferiad’ yn datgan bod 35% o’r gweithwyr llawrydd yng ngogledd Cymru yn ‘debygol o adael’ y diwydiant:

https://7aedbaad-21a9-4d25-996e-e75fbfef64fd.filesusr.com/ugd/b60e8d_4dc33343f30c4e32ad06a3e5a42ae095.pdf. Mae Steffan Donnelly wedi bod mewn cysylltiad â nifer o weithwyr llawrydd yng ngogledd Cymru, yn ogystal â chwmnïau teithiol cymunedol sydd wedi’u lleoli yno – gan gydnabod yr angen am i gwmnïau cymunedol o’r radd flaenaf gael eu cynnwys yn y drafodaeth. Gweler yr edefyn Twitter hwn am ragor o wybodaeth: https://twitter.com/steff_donnelly/status/1280528879736836097.

Mae Steffan Donnelly wedi ysgrifennnu at S4C yn gofyn iddynt gydnabod yr ecoleg ehangach, yn enwedig felly y ffaith bod gweithwyr llawrydd yn aml yn mireinio’u crefft a’u sgiliau yn y theatr cyn symud ymlaen i fyd darlledu. Mae’r llythyr yn gofyn am gymorth ariannol i weithwyr llawrydd, ymgysylltiad ehangach â darlledu gwaith theatr, rhannu gweithwyr technegol a chynllunwyr, ac ymrwymiad i ddatblygu cyfarwyddwyr ac ysgrifenwyr sy’n Gymry Cymraeg. Byddwn yn anfon llythyrau tebyg at BBC Cymru ac at gwmnïau cynhyrchu sy’n cael llawer o fudd o weithwyr llawrydd y theatr yng Nghymru.

Mae Anthony Matsena, Deborah Light, Krystal Lowe a Zosia Jo wedi dod at ei gilydd fel Is-grŵp Dawns/Cymru i arwain ar faterion sy’n effeithio ar sector y ddawns. Mae croeso i chi gysylltu os oes gennych unrhyw syniadau neu bryderon sy’n gysylltiedig yn benodol â maes dawns/symud: walestaskforce@gmail.com


Rydym wedi cael cynigion pendant gwerth £1,600 oddi wrth sefydliadau ac unigolion, a defnyddir yr arian ar ymgyngoriadau â gweithwyr llawrydd eraill a chostau mynediad. Rydym yn ddiolchgar iawn i’r sefydliadau hyn: Theatr Genedlaethol Cymru, Tanio, Ballet Cymru, Sefydliad y Glowyr Coed-duon, August 012 ac unigolion preifat. Gobeithiwn y bydd sefydliadau eraill yn penderfynu cefnogi ein gwaith, ac rydym eisoes yn trafod y mater hwn gyda sawl un. Dyma’r llythyr yn gofyn am gefnogaeth a anfonwyd gennym yr wythnos ddiwethaf at holl sefydliadau Portffolio Celfyddydau Cymru.

Cyflwynwyd cais i Gyngor Celfyddydau Cymru am gefnogaeth i’r costau mynediad sy’n gysylltiedig â gweithgaredd y Tasglu; yn y cyfamser, mae Canolfan Mileniwm Cymru wedi cynnig talu costau mynediad.

Mae Angharad Lee yn cynllunio 3 sesiwn llesiant, yn benodol ar gyfer actorion sy’n teimlo y bydden nhw’n hoffi rhywfaint o gefnogaeth yn ystod y cyfnod heriol hwn, a bydd yn rhannu gwybodaeth am y sesiynau hyn yn gynnar yr wythnos nesaf. Cadwch lygad allan am dudalennau cyfryngau cymdeithasol Angharad Lee a hefyd ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol Leeway Productions. 

Mae Angharad Lee wedi bod yn sgwrsio gyda gweithwyr llawrydd sydd wedi’u lleoli o fewn Rhondda Cynon Taf i gasglu gwybodaeth am eu hanghenion penodol ar hyn o bryd a’r hyn yr hoffen nhw ei gael yn y dyfodol. Bydd yn cynnal sesiynau Ystafell Werdd ar gyfer Tasglu’r Gweithwyr Llawrydd – maen nhw’n agored i BOB gweithiwr llawrydd o fewn y sector theatr a pherfformio sy’n byw yn Rhondda Cynon Taf neu’n hanu o’r sir. Edrychwch ar yr adran Ystafell Werdd isod.


Mae Zosia Jo wedi ysgrifennu at CCC yn gofyn am incwm ar gyfer artistiaid, ac unwaith y bydd y Tasglu wedi edrych mewn i hwn fel grwp, bydd y llythyr yn un agored ar gyfer llofnodion. Mi gychwynodd Zosia ar y syniad yn y blog yma (Saesneg): “Rwyf yn edrych ymlaen at siarad efo gweithwyr llawrydd i wneud yn siwr bod y syniadau o fudd i bawb. Rwyf eisiau casglu straeon i gryfhau fy syniadau. Cysylltwch efo fi!”


Mae Sarah Argent wedi bod yn gweithio efo Hannah McPake ar ‘Theatre for Young Audiences’ (TYA) is-grwp o’r Tasglu Cenedlaethol DU (Gorffennaf 21: 10.30-12.00), yn canolbwyntio ar brofiadau gweithwyr llawrydd, eu anghenion, a’u gobeithion. Mae Sarah wedi bod yn casglu data ar greu a cynhyrchu TYA ac efo diddordeb mewn clywed gan weithwyr llawrydd yn y sector yma. Edrychwch ar y #TYAQUESTIONS neu cysylltwch efo @sargent65 ar Trydar. Mae Sarah wedi bod yn gweithio efo TYA Cymru @tya_cymru yn cynllunio Ystafell Werdd - mwy o wybodaeth yn fuan.

Cysylltodd Mathilde Lopez ag Aidan Lang, cyfarwyddwr artistig Opera Cenedlaethol Cymru, i ofyn am gymorth ariannol i helpu i dalu am ymgyngoriadau gyda gweithwyr llawrydd. Yn ogystal, rhannodd y llythyr agored a anfonwyd at y llywodraeth oddi wrth sefydliadau mawr a chenedlaethol, gan annog Opera Cenedlaethol Cymru i ymuno â, a chefnogi, y trafodaethau sydd eisoes ar waith yn y sector.  


Mae Steffan Donnelly a Glesni Price-Jones wedi cynllunio dau sesiwn ymgynghorol cychwynnol yr wythnos nesaf gyda gweithwyr llawrydd sy’n Gymry Cymraeg. Dilynir y rhain gan ymgyngoriadau pellach, a rhagor o sesiynau agored, yn cynnwys ein Hystafell Werdd agored gyntaf y dydd Gwener hwn, 17 Gorffennaf, am 10.30am (gweler isod am fanylion).


Mae nifer o unigolion o’r tasglu yn mynychu cyfarfodydd traws-sector eraill gyda grwpiau megis Beth Nesaf Cymru, SOLT, Creu Cymru, Tasglu y DU a Producers Place i sicrhau bod lleisiau llawrydd yn cael eu cynrychioli mewn cynifer o drafodaethau ag y bo modd. Rydyn ni’n dal i aros i Gyngor Celfyddydau Cymru gadarnhau ein cyfarfod (oherwydd gwyliau blynyddol).


Bu llawer o drafod ynghylch y rhwystrau posibl i weithwyr llawrydd wrth iddynt fynd yn ôl i weithio, ac mae ein trafodaethau wedi cynnwys materion yswiriant ac iechyd a diogelwch ar gyfer gweithwyr llawrydd wrth iddyn nhw symud ymlaen. Cytunwyd y gallai sefydliadau edrych yn benodol ar hyn a chefnogi gweithwyr llawrydd, a byddwn yn diweddaru’r wybodaeth cyn gynted ag y byddwn yn gwybod rhagor.



Ystafelloedd Gwyrdd Tasglu Gweithwyr Llawrydd Cymru


Rydyn ni’n paratoi i lansio cyfres o ‘Ystafelloedd Gwyrdd’ gyda’r nod o gofnodi lleisiau, barn a syniadau gweithwyr llawrydd ar draws y sector yng Nghymru. Bydd y sesiynau hyn yn bwydo i mewn i ragor o ymgyngoriadau manwl ac ar yr un pryd yn caniatáu i ni greu cofnod o lygad y ffynnon i adlewyrchu lleisiau gweithwyr llawrydd, sydd mor aml yn cael eu hanwybyddu. Bydd y cofnodau hyn yn cefnogi unrhyw newidiadau polisi a syniadau radical y byddwn yn eu cynnig yn ein gwaith yn y dyfodol. 

  • Bydd yr Ystafelloedd Gwyrdd yn agored i bawb ac yn cael eu cynnal ar Zoom, gyda aelod o’r Tasglu yn hwyluso’r trefniadau. 

  • Bydd costau’r trefniadau mynediad i fynychu’r Ystafelloedd Gwyrdd yn cael eu talu gan Dasglu Gweithwyr Llawrydd Cymru.

  • Y pynciau a’r grwpiau sydd eisoes wedi eu cynnig ar gyfer yr Ystafelloedd Gwyrdd yw: Rheoli Llwyfan, Cynllunwyr Goleuo, Gweithwyr Llawrydd sy’n F/fyddar neu’n Anabl, Theatr ar gyfer Cynulleidfaoedd Ifanc, Gweithwyr sy’n Gymry Cymraeg, Pobl Feichiog a Rhieni Newydd, Artistiaid Dawns, Gweithwyr Llawrydd sydd erioed wedi gwneud cais am gymorth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Cymunedau Dosbarth Gweithiol a Gweithwyr Llawrydd ar Ddechrau eu Gyrfaoedd. 

  • Caiff y dyddiadau a’r amserau eu cyhoeddi wrth i’r sesiynau gael eu trefnu – mae rhai eisoes wedi cael eu cyhoeddi isod. 

  • Yn dilyn y sesiynau Ystafell Werdd agored, byddwn yn cynllunio cyfres o sesiynau ymgynghori llai o faint, y codir tâl amdanyn nhw, gydag unigolion a grwpiau bychan mae eu lleisiau’n aml yn cael eu hanwybyddu.

Os oes gennych chi, fel unigolyn neu grŵp, bwnc y credwch y dylen ni fod yn ei drafod mewn sesiwn Ystafell Werdd, mae croeso i chi gysylltu trwy ebost neu ar ein platfformau cyfryngau cymdeithasol, fel bod modd i ni wireddu eich cais!


Yr wythnos nesaf, byddwn yn rhedeg yr Ystafelloedd Gwyrdd canlynol:

  • Dawns: Goroesi a Tyfu Dydd Iau 16 Gorffennaf: 4pm – 5.30pm Cyfarfod agored yw hwn ar gyfer gweithwyr llawrydd ym maes artistiaid dawns/symud, ymarferwyr, coreograffwyr a pherfformwyr. Gweler Groundworkpro.com am fanylion. Os hoffech chi fod yno, anfonwch ebost at: walesfreelancetaskforce@gmail.com. Os oes gennych anghenion mynediad, gofynnir yn garedig i chi roi gwybod cyn gynted a phosib.

  • Gweithwyr Llawrydd sy’n Gymry Cymraeg Dydd Gwener 17 Gorffennaf: 10.30am – 11.30am  Gallwch godi pryderon ynghylch unrhyw beth, ond mae cyfle yma i ffocysu ar faterion sy’n effeithio ar y gymuned Gymraeg ei hiaith. Cynhelir y sesiwn hwn yn Gymraeg yn unig, ac mae wedi ei anelu at weithwyr, artistiaid a hwyluswyr ar unrhyw gam yn eu gyrfa. Does ond lle ar gyfer 10 o bobl. Os bydd mwy o alw, byddwn yn trefnu amser ar gyfer ail Ystafell Werdd ar y pwnc yma. Os hoffech chi fod yno, anfonwch ebost at: walesfreelancetaskforce@gmail.com. Os oes gennych anghenion mynediad, gofynnir yn garedig i chi roi gwybod i ni erbyn Dydd Mercher 15 Gorffennaf.

  • Gweithwyr Llawrydd Rhondda Cynon Taf Dydd Llun 20 Gorffennaf: 11am – 12.30pm Gofod diogel i Weithwyr Llawrydd RhCT rannu pryderon am y presennol a’r dyfodol, ac awgrymu pwyntiau gweithredu ar gyfer y Tasglu wrth iddo symud ymlaen. Os hoffech chi fod yno, anfonwch ebost at: walesfreelancetaskforce@gmail.com. Os oes gennych anghenion mynediad, gofynnir yn garedig i chi roi gwybod i ni erbyn Dydd Iau 16 Gorffennaf.


Pethau rydyn ni’n eu harchwilio:

-Mae Cyngor Celfyddydau Lloegr yn edrych ar gronfa arbennig i’w neilltuo ar gyfer rhai sydd wedi graddio’n ddiweddar. Mae hyn yn newyddion calonogol iawn a byddwn yn cyflwyno’r syniad i Gyngor Celfyddydau Cymru.

-Mae llawer o’r sgyrsiau gawson ni wedi amlinellu’r angen am gorff sy’n benodol yn cynrychioli gweithwyr llawrydd i ddod i fodolaeth yn sgil yr argyfwng hwn. Gyda sefydliadau megis Creu Cymru yn cynrychioli Lleoliadau yng Nghymru, ydy hi’n bryd hefyd i ni gael cefnogaeth benodol ar gyfer gweithwyr llawrydd?


-Rydyn ni’n archwilio statws cyfreithiol y gweithwyr llawrydd, ac fel mater o frys mae angen edrych hefyd ar y strwythurau IR35 sydd wedi golygu bod cynifer ohonon ni wedi ein gadael ar ôl.


-Beth yw lle Diwylliant o fewn economi gwyrdd y dyfodol?


DOLENNI DEFNYDDIOL / GWYBODAETH: 

BWRSERIAETH ARTIST TIME = MONEY o National Theatre Wales – Y dyddiad cau yw 26 Gorffennaf.


Bas data Solidarity Project o actorion people of colour yng Nghymru:


COVID-19: Canllaw ar sut i ddefnyddio cyfleusterau cymunedol aml-bwrpas yn ddiogel:

Prosiect Cyfnewid (gweithwyr proffesiynol llawrydd a rhai sydd ar ffyrlo yn cofrestru i gwrdd ar gyfer datblygiad proffesiynol a thwf artistig):


Adroddiad ‘Llwybrau at Adferiad’ COVID-19:

Gwybodaeth am Loegr yn unig sydd yma, ond gallai fod yn ddefnyddiol:


Aelodaeth am ddim am flwyddyn i’r Rural Touring Forum:

Adnoddau ar gyfer gweithwyr llawrydd:


Drwy gydol y pandemig, mae NODA – sy’n sefydliad gwych – wedi bod yn gweithio i gefnogi’r sector amatur:

Cyfleoedd hyfforddi gan National Association of Youth Theatres:


Mae ‘Creative Network from Voluntary Arts’ wedi bod yn rhedeg rhai sesiynau gwerthfawr iawn:  https://www.facebook.com/groups/820380415126121/


Menter wych yma o Glasgow:

Pethau y gallech chi eu gwneud, y funud hon:

-Rydyn ni’n annog artistiaid i gymryd rhan yn y cyfarfodydd Zoom – BETH NESAF? – er mwyn clywed gan leisiau llawer mwy amrywiol yn y sesiynau hyn (gweler isod).

Beth Nesaf Cymru: Pob dydd Mercher 8.30am

Beth Nesaf y Cymoedd: Pob dydd Mawrth 9.30am

Mae CULT CYMRU wedi bod yn cynnig rhai gweithdai ardderchog. Dyma’r ddolen i gael rhagor o wybodaeth:

Os teimlwch fod hyn yn rhywbeth y byddech chi’n hoffi ychwanegu eich llofnod ato, dyma lythyr Plaid Cymru i Lywodraeth Cymru: https://www.partyof.wales/support_for_the_arts


Sut cafon ein sefydlu?

Cawsom ein sefydlu gan gymysgedd o sefydliadau yn dewis gweithwyr llawrydd a drwy geisiadau ar-lein.

Rydym yn cael ein talu am 13 diwrnod o waith, mae rhai ohonom yn rhannu y sywdd.

Dyma fwy o wybodaeth mewn llythyr gan Fuel a ystadegau am y Tasglu:

Sefydliadau yng Nghymru sydd wedi noddi aelod ar y Tasglu Cenedlaethol:

Fio, Hijinx Theatre, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, National Theatre Wales, Rubicon Dance, Taking Flight, Theatr Genedlaethol Cymru, Theatr Iolo, Canolfan Mileniwm Cymru.

Aelodau o’r Tasglu Cenedlaethol yng Nghymru:

Sarah Argent, Steffan Donnelly, Garrin Clarke, Jafar Iqbal, Zosia Jo, Angharad Lee, Deborah Light, Krystal Lowe, Mathilde Lopez, Hannah McPake, Gavin Porter, Glesni Price-Jones.

Cysylltwch efo ni:



42 views0 comments

Recent Posts

See All
Post: Blog2_Post
bottom of page